Efydd i Carey a Hursey ar ddiwrnod olaf Gemau'r Gymanwlad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Charlotte Carey ac Anna HurseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Charlotte Carey ac Anna Hursey i drechu eu gwrthwynebwyr o Singapore i sicrhau'r fedal efydd

Mae Cymru wedi sicrhau medal arall ar ddiwrnod olaf Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham, wrth i dîm parau'r menywod ennill efydd yn y tenis bwrdd.

Ar ôl colli yn y rownd gynderfynol ddydd Sul, llwyddodd Charlotte Carey ac Anna Hursey i drechu eu gwrthwynebwyr o Singapore i sicrhau'r trydydd safle yn y gystadleuaeth fore Llun.

Mae Cymru felly wedi ennill 28 o fedalau yng Ngemau Birmingham - wyth aur, chwe arian ac 14 efydd.

Daeth cadarnhad hefyd fore Llun mai'r bocsiwr Rosie Eccles fydd yn cario baner Cymru yn seremoni gloi Gemau'r Gymanwlad yn Stadiwm Alexander yn ddiweddarach ddydd Llun.

Eccles, 26, wnaeth ennill un o'r wyth o fedalau aur i Gymru - a hi yw'r ail fenyw yn unig i ennill aur yn y bocsio i Gymru yn y Gemau.

Pynciau cysylltiedig