Nifer y cwynion i'r ombwdsmon yn yn uwch nag erioed

  • Cyhoeddwyd
Michelle Morris
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michelle Morris ei phenodi yn ombwdsmon ym mis Ebrill 2022

Mae adroddiad newydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn nodi bod mwy o gwynion y llynedd nag erioed o'r blaen.

Yn ystod 2021/22 fe dderbyniodd y swyddfa 2,726 o gwynion am wasanaethau cyhoeddus.

Mae hyn yn gynnydd o 45% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a 22% yn uwch na'r nifer yn 2019/20.

Dywedodd yr ombwdsmon, Michelle Morris, bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn "parhau i weithio dan bwysau sylweddol", a bod y swyddfa yn dal i "weithio gyda nhw i sicrhau y deuant yn gryfach ar ôl y pandemig".

Prif gyfrifoldeb yr ombwdsmon yw ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus ac ymddygiad aelodau etholedig, a'r nod yw ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus.

2021/22 oedd blwyddyn olaf Nick Bennett fel ombwdsmon, cyn i Ms Morris gael ei phenodi i'r rôl ym mis Ebrill 2022.

Fe dderbyniodd y swyddfa fwy o gwynion am fyrddau iechyd, tra bod cynnydd sylweddol mewn cwynion am awdurdodau lleol a chymdeithasau tai hefyd.

Cafodd 294 o gwynion eu gwneud am gynghorwyr lleol - roedd hyn yn llai na'r llynedd, ond 27% yn fwy o'i gymharu â'r flwyddyn cyn hynny.

Roedd bron i ddau draean o'r cwynion hynny yn ymwneud â chynghorwyr mewn cynghorau tref a chynghorau cymuned, ac roedd ychydig dros hanner yn ymwneud â'r modd yr oedd cynghorwyr yn hyrwyddo cydraddoldeb a pharch.

Disgrifiad o’r llun,

2021/22 oedd blwyddyn olaf Nick Bennett fel ombwdsmon - swydd y bu ynddi ers 2014

Daeth yr ombwdsmon i'r casgliad fod rhywbeth wedi mynd o'i le a phenderfynwyd ymyrryd mewn 18% o'r cwynion am wasanaethau cyhoeddus.

Yn bennaf, ymyrrodd yr ombwdsmon drwy gynnig datrysiad cynnar, i sicrhau cyfiawnder yn gyflym heb fod angen cynnal ymchwiliad llawn.

Cafodd saith adroddiad o ddiddordeb cyhoeddus eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn - y rhai hynny yn ymwneud â'r cwynion mwyaf difrifol am wasanaethau cyhoeddus.

'Dysgu gwersi'

Wrth ymateb i gynnwys yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris: "Wrth i mi ddechrau fy swydd fel ombwdsmon, hoffwn dalu teyrnged i Nick Bennett, fy rhagflaenydd, ac i'r staff yn y swyddfa am eu gwaith caled wrth iddynt barhau i ddarparu gwasanaethau drwy'r hyn sydd heb os wedi bod y ddwy flynedd fwyaf heriol i'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i weithio dan bwysau sylweddol.

"Maent wedi parhau i weithio gyda ni i sicrhau y gallwn ymdrin yn briodol â materion pan fyddant yn mynd o chwith a bod pob un ohonom yn dysgu gwersi o'r profiad hwnnw.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau y deuant yn gryfach ar ôl y pandemig a bod defnyddwyr gwasanaeth yn parhau i dderbyn iawndal pan fydd pethau'n mynd o chwith."