Ombwdsmon: Mwy o gwynion am aelodau etholedig cynghorau
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwynion am ymddygiad aelodau etholedig awdurdodau lleol Cymru "wedi codi i'r entrychion", meddai ombwdsmon.
Cynyddodd cwynion am aelodau etholedig lleol oddeutu 47% yn ystod y pandemig, ond roedd y cwynion am fyrddau iechyd 22% yn is, yn ôl adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Er bod 16% yn llai o gwynion yn gyffredinol na'r flwyddyn gynt, cafwyd 535 o gwynion newydd am aelodau etholedig cynghorau - y nifer uchaf erioed.
Roedd rhaid ymchwilio'n llawn i 308 o'r cwynion hynny - 231 o ymchwiliadau llawn oedd yna yn y flwyddyn flaenorol.
Prif gyfrifoldeb yr ombwdsmon yw ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus ac ymddygiad aelodau etholedig yn eu bywydau a'r nod yw ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Wrth ymateb i'r cwynion dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett: "Yn ystod blwyddyn lle daeth Cyngor Plwyf Handforth yn ffenomenon feirol ar gyfryngau cymdeithasol, mae'n ddiddorol nodi'r cynnydd sydyn a gafodd fy swyddfa yn ystod y pandemig o ran cwynion Cod Ymddygiad am aelodau etholedig lleol.
"Bu sawl achos proffil uchel, gan gynnwys sancsiynau sylweddol mewn perthynas ag aelodau unigol yng Nghaerdydd a Merthyr.
"Ond y tu hwnt i'r achosion hynny a oedd wedi hawlio'r penawdau, rydym wedi gweld sawl enghraifft o ymddygiad gwael..."
Sylwadau ar-lein yn ysgogi cwyno
Ychwanegodd bod nifer o'r cwynion a gafwyd yn deillio o sylwadau a wnaed ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.
"Yn unol â'r cynnydd hwn mewn cwynion, mae fy swyddfa wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â hyfforddi cynghorau tref i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o ddisgwyliadau'r Cod Ymddygiad a'r angen i gynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus lleol," ychwanegodd Mr Bennett.
"Mae'n destun pryder ei bod yn ymddangos bod ymddygiad gwael, tramgwyddus neu ddirmygus yn nodwedd gynyddol o fywyd cyhoeddus.
"Felly, byddwn yn annog pob aelod etholedig i ymgyfarwyddo â chod ymddygiad eu hawdurdod a sicrhau eu bod yn cadw at egwyddorion y codau hynny."
Mae'r sancsiynau a roddwyd i'r rhai a ddyfarnwyd yn euog o dorri'r codau yn amrywio o ataliad tymor byr i anghymhwysiad hir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016