Noson arbennig i Gasnewydd yng Nghwpan y Gynghrair

  • Cyhoeddwyd
Chanka Zimba celebrates Newport's second goal with Lewis CollinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chanka Zimba'n dathlu ail gôl Casnewydd gyda sgoriwr gôl gyntaf y tîm, Lewis Collins

Casnewydd oedd yr unig dîm o Gymru i hawlio lle yn ail rownd cystadleuaeth Cwpan y Gynghrair nos Fawrth a hynny ar ôl trechu gwrthwynebwyr o'r Bencampwriaeth.

Llwyddodd yr Alltudion i ddod yn gyfartal ddwywaith yn erbyn Luton Town, diolch i Lewis Collins a Chanka Zimba, cyn i James Waite sgorio i sicrhau'r fuddugoliaeth yn Kenilworth Road.

Ond roedd yna siom i Gaerdydd ac Abertawe, a gollodd i dimau o Adran Un er i'r ddau gael dechrau addawol.

Yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yr Adar Gleision gafodd y gorau o'r meddiant o bell yn ystod yr hanner cyntaf di-sgôr.

Ond cefnogwyr yr ymwelwyr oedd yn dathlu ar y diwedd wedi perfformiad campus a thair gôl Portsmouth yn yr ail hanner.

Roedd Abertawe ar y blaen o ddwy gôl i ddim, oddi cartref yn erbyn Oxford United, wedi 25 munud o chwarae ar ôl i Jay Fulton a Liam Cullen rwydo.

Ond bu'n rhaid i'r gêm gael ei setlo trwy giciau o'r smotyn wedi i'r tîm cartref wneud hi'n 2-2 yn ystod y pum munud o amser ychwanegol ar ben y 90.

Sgoriodd Cullen, Olivier Ntcham a Joe Allen o'r smotyn ond fe gafodd ymdrech Matthew Sorinola ei arbed ac Oxford United aeth â hi o 5-3.