Leanne Wood: 'Gweithdrefnau Plaid Cymru yn methu merched'
- Cyhoeddwyd
Mae gweithdrefnau mewnol Plaid Cymru "yn methu menywod", medd cyn-arweinydd y blaid.
Dywed Leanne Wood, a oedd yn arwain Plaid Cymru rhwng 2012 a 2018, bod gan y blaid "drefn fetio sy'n hidlo y rhai na ddylai, yn sgil eu barn, fod â rôl mewn bywyd cyhoeddus... ond bod enghreifftiau yn parhau i godi o dro i dro".
Dywed arweinydd y Blaid, Adam Price: "Does dim lle i gasineb at ferched yn ein gwleidyddiaeth".
Yn y cyfamser dywed Chris Bryant AS bod "pedwar AS gwahanol wedi'i gyffwrdd ar adegau gwahanol".
Wrth ymateb i sylwadau Ms Wood ar raglen Politics Wales, ychwanegodd Mr Price: "Rwy'n arswydo gyda'r straeon ry'n wedi'u gweld yn ddiweddar ac mae'n rhaid i ni dderbyn fod hyn yn gyffredin ar draws ein cymdeithas.
"Un o'r pethau cyntaf a wnes i fel arweinydd oedd gosod set gyfan o bolisïau i edrych sut oedd modd i ni fod yn fwy cynhwysol fel plaid.
"Fe wnes i gomisiynu Sian Gwenllian i gynnal ymchwiliad i brofiad merched yn ein plaid.
"O ganlyniad i hynny ry'n yn cyflwyno cyfres o fesurau er mwyn sicrhau bod Plaid Cymru yn ofod diogel a chynhwysol i ferched.
"Ry'n ni am fod yn blaid i Gymru gyfan a ddim am weld unrhyw ddiwylliant neu arferion yn ein plaid sy'n gwahaniaethu ac mae'n gwbl angenrheidiol ein bod yn parhau i gyflwyno y cynigion hynny," meddai.
Mewn erthygl ar wefan The National, dolen allanol dywedodd Ms Wood hefyd na ddylai'r cyn AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, cael dychwelyd i'r blaid.
Wrth gyfeirio at Mr Edwards, a oedd yn arwain ei hymgyrch arweinyddiaeth yn 2012 ychwanegodd: "Byddai neges o waharddiad oes yn rhywbeth cadarnhaol ac yn arwydd o newid."
Yng Ngorffennaf 2020, cafodd Mr Edwards ei wahardd o Blaid Cymru am 12 mis wedi iddo gael rhybudd gan yr heddlu am ymosod.
Ar y pryd dywedodd Mr Edwards ei fod yn "ymddiheuro'n fawr" ac yn edifar am yr hyn digwyddodd.
Fe wnaeth datganiad gan ei wraig, Emma Edwards, ddweud ar y pryd: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ngŵr.
"Yn ystod y ddegawd yr ydym wedi bod gyda'n gilydd - mae e wedi bod yn ŵr a thad cariadus a gofalus."
Mae Jonathan Edwards sy'n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn parhau yn AS annibynnol wedi ei waharddiad o Blaid Cymru a dyw e ddim wedi gwneud cais i ailymuno â'r blaid.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Nid ydym yn gwneud sylw ar achosion disgyblu unigol.
"Mae Plaid Cymru yn ystyried casineb a thrais tuag at ferched yn gwbl ddifrifol.
"Ry'n yn parhau i weithredu er mwyn sicrhau fod Plaid Cymru yn ofod diogel i'n holl aelodau," meddai.
Mae cais wedi cael ei roi i Jonathan Edwards am ymateb.
Mae rhai ASau blaenllaw wedi galw am newidiadau mawr yn San Steffan wedi honiadau niferus o fwlio a chamymddwyn rhywiol yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Ddydd Sadwrn fe ymddiswyddodd Neil Parish wedi iddo gyfaddef ei fod wedi gwylio pornograffi ddwywaith yn y Senedd.
Ddydd Gwener fe gafodd yr Aelod Ceidwadol sy'n cynrychioli Dyfnaint ei wahardd gan ei blaid yn sgil yr honiadau.
Dywedodd Chris Bryant, AS Llafur Rhondda: "Rwy'n credu bod pedwar AS gwahanol wedi fy nghyffwrdd ar amserau gwahanol.
"Doedd hi ddim yn bosib i mi adrodd hynny oherwydd wedyn chi'n dod yn rhan o'r stori a doedd hi ddim yn bosib i fi adrodd am yr hyn ddigwyddodd mewn modd annibynnol a chyfrinachol.
"Byddwn wedi cael fy meirniadu gan ASau eraill ac felly rwy'n hynod o fach bod yna system gwynion annibynnol wedi'i chyflwyno.
"Rwy'n gwybod fod y cyfan yn boenus iawn i'r Senedd gan bod ymchwiliad i rai o'r achosion ac mae o leiaf un AS wedi gadael y Senedd o ganlyniad - rwy'n credu ei bod mor bwysig bod system gwynion wedi'i chyflwyno ac fe fydd yn rhaid i ni hybu a sicrhau bod y drefn yn gwella," meddai.
Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth un AS ddweud wrth BBC Cymru fod sylwadau anweddus honedig wedi ei gwneud amdani gan aelod o gabinet Llafur.
Dywedodd ei bod wedi cael ei disgrifio fel "arf cudd" am fod "merched am fod yn ffrindiau iddi" a bod dynion am gysgu gyda hi.
Fe ddywedodd yr AS Cymreig, sy'n dymuno aros yn ddienw, mai nad dyna'r unig gasineb at ferched neu ymddygiad rhywiaethol roedd hi wedi ei brofi yn San Steffan neu tra'n gweithredu busnes seneddol.
Dywedodd arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, "bod yn rhaid mynd i wraidd y broblem a gweithredu" ac fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau y Blaid Lafur, Jonathan Ashworth, bod angen ymchwilio i'r honiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020