Ryan Giggs wedi 'addo'r byd' i'w gyn-gariad

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Ryan Giggs bara pythefnos

Mae cyn-gariad Ryan Giggs wedi dweud ei bod wedi parhau â'u perthynas am ei fod "yn addo'r byd" iddi.

Mae cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, wedi'i gyhuddo o reoli ei gyn-gymar Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer Emma.

Mae Mr Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Holodd cyfreithiwr Mr Giggs, Chris Daw pam fod Ms Greville wedi cytuno i symud i fyw ato yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020, os oedd yn ei rheoli fel mae'r erlyniad yn ei honni.

Dywedodd Ms Greville bod Mr Giggs wedi addo y byddan nhw'n dechrau teulu, yn byw gyda'i gilydd, a'i bod hi "eisiau i hynny fod yn wir, eisiau i hynny fod yn realiti".

Dywedodd ei bod wedi mynd yn ôl at Mr Giggs er ei ymddygiad honedig gan ei fod "yn addo'r byd" iddi.

"Es i 'nôl ato fo - ro'n i'n ffôl, ac mae gen i gywilydd o hynny, cywilydd mawr, ond dyna wnes i."

Cyfnod clo yn 'ofnadwy'

Clywodd y llys yn ystod y cyfnod clo fod y cwpl wedi cymryd rhan yn gyson mewn cwis ar-lein gyda theulu, blasu gwin ar Zoom, a'u bod wedi cael cogyddion â sêr Michelin i ddanfon bwyd atynt.

Ond dywed Ms Greville fod y ddau yn ffraeo hefyd, gan gynnwys un achlysur am y ffordd roedd hi'n llwytho'r peiriant golchi llestri.

"Roedd yn gwneud i mi deimlo fel idiot am y ffordd ro'n i'n ei lwytho. Roedd rhaid i mi wneud o union y ffordd yr oedd o eisiau. Mae hynny ond yn un esiampl o nifer," meddai.

"Ro'n i'n teimlo fel 'mod i'n colli hi - roeddwn i'n cael panic attacks. Roedd yn amser ofnadwy i mi."

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Yn gynharach dywedodd Ms Greville fod Mr Giggs wedi gwneud iddi deimlo mai ei bai hi oedd ymosodiad honedig arni ganddo mewn gwesty yn Llundain yn Rhagfyr 2019.

Dywedodd fod Mr Giggs wedi ei hel o'r gwely gan ei chicio yn ei chefn, a'i fod wedi taflu bag gliniadur ati a'i gorfodi allan o'r stafell wely yn noeth.

Ond wrth droi at negeseuon testun rhwng y ddau y diwrnod canlynol, dywedodd y bargyfreithiwr wrth y llys bod "dim awgrym" yng nghynnwys y negeseuon "bod 'na ddigwyddiad treisgar" wedi digwydd.

"Nag oedd," meddai Ms Greville, "achos ei fod wedi gwneud i mi deimlo mai fy mai i oedd o."

Cwestiynu datganiadau i'r heddlu

Fe ofynnodd Mr Daw i Ms Greville hefyd pam nad oedd hi wedi sôn am yr honiad fod Mr Giggs wedi ei chicio yn ei chefn yn ei datganiad gwreiddiol i'r heddlu.

Awgrymodd bod Ms Greville yn ceisio gwneud i bopeth swnio mor wael â phosib.

Ond dywedodd Ms Greville bod ei thystiolaeth yn gywir a'i bod ond wedi mynd i fanylder y digwyddiad mewn cyfweliad heddlu diweddarach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs ydy un o'r pêldroedwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes y gêm

Fe wnaeth Mr Daw hefyd ddarllen cyfres o negeseuon gan Ms Greville at Mr Giggs, ble roedd hi'n mynd yn fwyfwy diamynedd nad oedd yn ei hateb yn ddigon sydyn.

Dywedodd Ms Greville fod Mr Giggs wedi ei "chyflyru" hi i wneud hynny am ei fod yntau yn disgwyl ymateb i'w negeseuon "o fewn eiliadau".

Annog a chefnogi ei gyrfa

Darllenwyd mwy o negeseuon yn y llys oedd yn dangos Mr Giggs yn ei chefnogi a'i hannog yn ei gyrfa.

Ar un achlysur fe wnaeth Mr Giggs gymryd ei hochr hi mewn dadl gyda'i ffrind gorau.

Dywedodd Mr Daw: "Fe ddywedoch chi ei fod yn tanseilio eich gyrfa?"

Atebodd Ms Greville y byddai'n gefnogol ar adegau, ond y byddai hefyd yn tanseilio hynny.

"Byddai unrhyw garedigrwydd wedi'i gymysgu ag ymddygiad ofnadwy," meddai.

Mae'r achos yn parhau.