Llys yn clywed bod ochr 'sinistr' i gymeriad Ryan Giggs

  • Cyhoeddwyd
Ryan Giggs yn cyrraedd y llys ddydd Llun 8 Awst 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs yn cyrraedd Llys y Goron Stryd Minshull, Manceinion ddydd Llun ar ddiwrnod agoriadol yr achos

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos llawn yn erbyn Ryan Giggs mae llys ym Manceinion wedi clywed bod yna ochr "sinistr" i gymeriad y cyn-bêl-droediwr, oedd yn cael ei "addoli" gan gefnogwyr.

Mae Mr Giggs, 48, yn gwadu cyhuddiadau o reoli ei gyn-gymar drwy orfodaeth ac o ymosod arni hi a'i chwaer.

Wrth ddechrau amlinellu'r achos yn erbyn cyn-asgellwr Manchester United a Chymru, dywedodd yr erlyniad bod yna "ysbeidiau o weithredoedd treisgar a gwylltineb" o fewn ei berthynas gyda Kate Greville.

Cafodd y cyhuddiadau eu dwyn fis Ebrill y llynedd yn sgil ymosodiad honedig ar Ms Greville a'i chwaer, Emma Greville yn 2020.

Fe gamodd Mr Giggs i lawr o'i swydd fel rheolwr tîm Cymru ym mis Mehefin.

Safodd y Cymro yn y doc yn Llys y Goron Stryd Minshull y ddinas wrth i aelodau'r rheithgor - saith menyw a phum dyn - dyngu llw ar ddechrau'r achos.

'Colli rheolaeth'

Ychwanegodd Peter Wright QC ar ran yr erlyniad fod "camdrin corfforol a seicolegol" yn amlwg ym mywyd personol y cyn bêl-droediwr.

Dywedodd fod hon yn stori o geisio "rheoli" dynes oedd yn credu ei bod hi'n cael ei "charu a'i pharchu".

Clywodd y rheithgor eu bod am glywed hanes perthynas oedd â chyfnodau da a drwg, a bod Mr Giggs yn gweld rhywun arall tra ei fod o mewn perthynas â Ms Greville.

"Yn y pen draw, wedi blynyddoedd o aflonyddwch, roedd hi'n gallu gweld yn glir, ac wedi sylweddoli ei bod hi angen cael gwared ar ei ddylanwad ar ei bywyd," meddai Mr Wright.

Dywedodd mai'r penderfyniad yma i'w adael arweiniodd at y digwyddiad ar 1 Tachwedd 2020, lle mae Ms Greville yn honni i Mr Giggs "golli rheolaeth" a'i tharo gyda'i ben.

Ychwanegodd bod chwaer Ms Greville wedi ymyrryd tra bod y ddau mewn cythrwfl ar y llawr, a bod Mr Giggs wedi ei tharo hi ar ei gên gyda'i benelin yn fwriadol.

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos barhau am 10 diwrnod

Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Chris Daw QC bod ymddygiad Mr Giggs ar "lefel foesol" yn "bell o fod y berffaith".

Clywodd y rheithgor bod rhai o'r negeseuon wnaeth o eu hanfon at Ms Greville yn cynnwys enghreifftiau o iaith anaeddfed ac amhriodol, ond bod hynny'n wir am negeseuon Ms Greville hefyd.

"Fe wnaethon nhw ymddwyn fel plant," meddai, "...ond mae yna rai llinellau na fydd Mr Giggs fyth yn eu croesi".

Ychwanegodd: "Mae hi'n glir nad oedd anafiadau Ms Greville yn gyson ag ergyd ar y pen gan ddyn cryf a heini.

"Roedd ganddi wastad ryddid ariannol, yn rhydd i deithio a gweld ei ffrindiau fel y mynnai hi... dydi anaeddfedrwydd ddim yn drosedd."

Clywodd y llys y bydd y tystion yn cynnwys cyn-reolwr Manchester United, Syr Alex Ferguson a'i cyn-gyd-chwaraewr yn y clwb, Gary Neville.

Mae Ryan Giggs yn gwadu ymddwyn tuag at Ms Greville mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth rhwng Awst 2017 a Thachwedd 2020.

Mae hefyd yn gwadu ymosod arni gan achosi niwed corfforol, a chyhuddiad o ymosod ar Emma Greville, yn ystod digwyddiad yn ei gartref yn Worsley, ym Manceinion ar 1 Tachwedd 2020.

Mae disgwyl i'r achos barhau am oddeutu 10 diwrnod a bydd yn cael ei gynnal o ddydd Mawrth ymlaen yn Llys y Goron Manceinion.