Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Birmingham
- Cyhoeddwyd

Philogene sgoriodd y gôl i Gaerdydd ac roedd 'na ddathlu mawr
Ar brynhawn crasboeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe wnaeth yr Adar Gleision fwynhau buddugoliaeth yn erbyn Birmingham.
Un gôl gafodd ei sgorio, a honno gan Jaden Philogene yn yr hanner cyntaf.
Ond roedd yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gaerdydd.
Er i Gaerdydd fethu fentro am gôl arall funudau i mewn i'r ail hanner, Birmingham oedd y ceffylau blaen a'r Adar Gleision yn cael eu herio.
Roedd cyfle am seibiant oherwydd y tywydd poeth a'r chwaraewyr yn hydradu cyn yr ugain munud olaf.
Roedd Birmingham yn gobeithio am gyfle clir erbyn y diwedd ond ni ddaeth yr awr.
Buddugoliaeth i'r tîm cartref felly a'r Adar Gleision yn dathlu gôl Philogene am beth amser i ddod.