Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-2 Millwall

  • Cyhoeddwyd
Ryan ManningFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Manning wnaeth sgorio gôl gyntaf y noson

Bu'n rhaid i Abertawe fodloni ar bwynt yn unig yn y Bencampwriaeth nos Fawrth, er iddyn nhw fod dwy gôl ar y blaen tan y cyfnod ychwanegol o chwarae.

Halen ar y briw oedd y ffaith mai eu chwaraewyr eu hunain wnaeth rwydo i'w gôl eu hunain, gan olygu bod rhaid rhannu'r pwyntiau gyda Millwall.

Rhoddodd Ryan Manning yr Elyrch ar y blaen funud yn unig wedi'r gic gyntaf, wedi iddo gysylltu â pheniad Olivier Ntcham ac ergydio o ochr chwith y cwrt chwech i gornel waelod dde'r rhwyd.

Yn y 12fed munud fe ddyblodd Michael Obafemi y fantais gan saethu'r bêl o ganol y blwch i'r gornel waelod chwith.

Ac ar ddechrau'r munudau ychwanegol ar ben y 90, roedd yn edrych fel bod yr Elyrch yn saff o sicrhau eu hail buddugoliaeth ers dechrau'r tymor, a'r cyntaf o flaen eu cefnogwyr eu hunain.

Ond yna fe ddaeth y goliau trychinebus a ddaeth â Millwall yn gyfartal - y cyntaf gan Ben Cabango (90+3) a'r ail gan Nathan Wood (90+5).