Cosbi cynghorydd ar ôl iddo wrthod cais i ganu'n Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi corddi yn Abertawe wedi i ysgol gynradd Gymraeg leol gael gwybod na fyddai modd iddyn nhw ganu yn y Gymraeg mewn gŵyl gymunedol.
Fe gwynodd pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw i Gyngor Cymuned Y Mwmbwls ar ôl i gais i ganu yn y Gymraeg yng Ngŵyl Y Mwmbwls eleni gael ei wrthod gan gynghorydd lleol.
Yn dilyn cyfarfod arbennig nos Fawrth i drafod eu hymateb, fe benderfynodd y cyngor i symud y cynghorydd dan sylw, Rob Marshall, o'i rôl fel is-gadeirydd pwyllgor diwylliant y cyngor.
Bydd hefyd yn ysgrifennu at yr ysgol i ymddiheuro.
Mae'r Cynghorydd Marshall wedi mynnu nad oedd bwriad i amharchu'r Gymraeg.
'Anghredadwy'
Mae cwyn yr ysgol yn seiliedig ar sylwadau'r Cynghorydd Rob Marshall a wnaeth helpu i drefnu'r ŵyl eleni. Ar y pryd ef oedd is-gadeirydd pwyllgor diwylliant y cyngor.
Roedd y gŵyn yn cynnwys sylwadau am eithrio'r Gymraeg a'r diwylliant, cynnwys deunydd amhriodol i blant ysgol gynradd, ymddygiad y Cynghorydd Rob Marshall a'r modd y mae Cyngor Cymuned Y Mwmbwls yn cael ei lywodraethu.
Yn ôl Heini Gruffudd, ymgyrchydd iaith a chadeirydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg Abertawe, mae'n "anghredadwy yng Nghymru heddi' bod cynghorydd sy'n gyfrifol am ddiwylliant yn gweld hi'n amhosibl i gân Gymraeg gael ei chanu mewn gŵyl".
"Mae'n hollol anghredadwy, yn enwedig gan fod y cynghorydd hwnnw yn cyfeilio i gantorion enwog Cymraeg a dyma fe yn Y Mwmbwls yn gwrthod i ysgol Gymraeg ganu yn y Gymraeg."
Dydy safonau iaith Comisiynydd y Gymraeg ddim yn berthnasol i gynghorau tref a chymuned, ond mae disgwyl iddyn nhw ddilyn yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Nawr mae Mr Gruffudd eisiau gweld newid yn y rheolau.
"Mae angen i gomisiynydd yr iaith ddod â safonau i reoli sut mae cynghorau cymuned yn defnyddio'r Gymraeg," meddai cyn y cyfarfod nos Fawrth.
"Yr hyn ddylai ddigwydd nawr yn Y Mwmbwls yw y dylai'r cyngor ymddiheuro i'r ysgol. Tro nesaf maen nhw'n trefnu unrhyw beth mae angen iddyn nhw ganiatáu i'r ysgol ddefnyddio'r Gymraeg ond hefyd annog y saith ysgol Saesneg yn yr ardal i ddefnyddio'r Gymraeg hefyd.
"Ac wedyn o ran y Cynghorydd Rob Marshall mae angen iddo fe gamu'n ôl a mynd ar gwrs ymwybyddiaeth iaith a meddwl am ei sefyllfa."
Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa Comisiynydd y Gymraeg: "Yn wahanol i'r cynghorau sir sydd â dyletswydd i gydymffurfio gyda safonau'r Gymraeg, mae'r cynghorau tref a chymuned yn parhau o dan gyfundrefn cynlluniau iaith fel rhan o Ddeddf Iaith 1993.
"Er mwyn hwyluso'r broses yma a chynorthwyo'r rhai sydd am fabwysiadu cynllun iaith, mae canllaw a thempled ar gael i'w defnyddio gan bob cyngor tref a chymuned."
Yr ŵyl 'wedi adlewyrchu'r diwylliant Cymraeg'
Mewn ymateb i'r gŵyn, mae'r cyngor cymuned wedi cyflwyno 10 o argymhellion.
Maen nhw'n cynnwys sefydlu gweithgor i ddiwygio'u darpariaeth iaith Gymraeg, llunio camau i sicrhau na fydd y fath sefyllfa'n digwydd eto, ac ymrwymiad i sicrhau hyfforddiant iaith Gymraeg i'r rheiny sy'n ddi-Gymraeg.
Ond mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi adlewyrchu'r diwylliant Cymraeg yn yr ŵyl.
Mae'r digwyddiad wedi siomi'r AS Ceidwadol yn rhanbarth De Orllewin Cymru, Tom Giffard.
"Dwi'n credu bod e'n bwysig bod ysgol Gymraeg yn gallu perfformio yn y Gymraeg os dyna be maen nhw eisiau wneud," meddai.
"Mae rhaid i ni gofio bod y ddwy iaith yng Nghymru yn cael eu trin yn gyfartal ac mae cwestiynau ynglŷn â pham na ddigwyddodd hynny yn y sefyllfa yma."
Cafodd cyfarfod nos Fawrth ei drefnu'n arbennig i drafod pa gamau y dylai'r cyngor eu cymryd yn sgil sylwadau'r Cynghorydd Marshall.
Fe ddywedodd Rob Marshall cyn y cyfarfod mai'r rheswm dros ei benderfyniad i beidio cynnwys caneuon Cymraeg yn yr ŵyl oedd diffyg amser a'r pwysau ar y cyngor i gynnal y digwyddiad, yn hytrach na sen ar yr iaith Gymraeg.