Y Bencampwriaeth: West Bromwich Albion 0-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Er gwaethaf gêm ddi-sgôr i'r Adar Gleision oddi cartref yn erbyn West Bromwich Albion, roedd hi'n noson digon addawol i ddynion Steve Morison.
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd mewn hanner cyntaf agored ond aeth ymgais Sheyi Ojo o Gaerdydd yn rhy llydan.
Wrth i Gaerdydd ennill hyder, fe geisiodd Ojo am y gôl unwaith eto ond aeth yn ofer.
Fe wnaeth Callum O'Dowda, a ddaeth i'r cae yn lle Jamilu Collins, argraff dda hefyd.
Roedd cyfleoedd i gyrraedd cefn y rhwyd yn yr ail hanner a'r tîm cartref yn colli allan funudau cyn y chwiban olaf yn sgil arbediad gôl-geidwad Caerdydd, Ryan Allsop.
Mae'r Adar Gleision bellach yn chweched yn y tabl gyda saith pwynt o bedair gêm.