Medal arian i Jake Heyward ym Mhencampwriaethau Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Jake HeywardFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe gipiodd Jake Heyward fedal arian yn y ras 1500m yn y Pencampwriaethau Athletau Ewropeaidd ym Munich nos Iau, er ei fod yn bell o deimlo ar ei orau oherwydd salwch.

Roedd y Cymro yn bedwerydd wrth ddechrau'r lap olaf ond fe wibiodd i'r lein yn gryf i ddod yn ail i'r pencampwr Olympaidd o Norwy, Jakob Ingebrigtsen, y ffefryn i ennill a oedd wedi arwain y ras o'r dechrau.

Dywedodd yr athletwr o Gaerdydd wedi'r ras ei fod "wirioneddol eisiau dod i'r pencampwriaethau yma a chael medal," ar ôl dod yn bumed yn y Gemau Gymanwlad.

"Mi wna'i gymryd y fedal arian," meddai, er iddo deimlo'n "siomedig na allwn i herio Jakob fwy".

Dywedodd nad oedd â'r gallu i berfformio cystal ag y byddai wedi dymuno am nad oedd yn teimlo'n dda.

"Doedd fy mrest ddim yn dda," meddai. "Rwy' wedi bod yn eitha' sâl, a bod yn onest, felly mi gymra'i hwnna."

Pynciau cysylltiedig