Ceredigion: 'Embaras' cynghorydd lleol am system tocynnau parcio
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd lleol o Geredigion wedi dweud bod yn "rhaid newid" peiriannau tocynnau parcio'r sir, rhag i bobl leol, ymwelwyr a busnesau brofi unrhyw anawsterau pellach.
Cafodd y peiriannau newydd eu gosod ar draws y sir yn Rhagfyr 2020. Dydyn nhw ddim yn derbyn arian parod ac mae nifer wedi dweud eu bod yn "gymhleth" i'w defnyddio.
Yn ôl cynghorydd ward Aberaeron, Elizabeth Evans, mae'n achosi "embaras" iddi bod y peiriannau'n dal i greu problemau i fusnesau ac ymwelwyr, er i bryderon gael eu codi droeon.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion bod y peiriannau "wedi cael eu diweddaru" yn haf 2022, a bod hynny wedi gwella a chyflymu'r broses o brynu tocyn.
Dywedodd y cynghorydd Elizabeth Evans bod y peiriannau'n "gymhleth iawn".
"Mae'r botymau, maen nhw mor anodd, maen nhw'n araf i'w prosesu, so beth sy'n digwydd yw, mae pobl yn gor-neud hi, ac wedyn maen nhw'n talu am docyn wythnos yn hytrach nag un awr," ychwanegodd.
"Mae'n rhaid i bobl dalu gyda charden, dros y sir i gyd, ac mae pobl yn cael trafferthion i brosesu beth i wneud."
Yn ôl Ms Evans, mae'n bryd gweithredu.
"Mae e'n rili embarrassing fel cynghorydd lleol i drio esbonio'r effaith a hefyd fi'n teimlo dros y bobl, ma' nhw'n gweithio mor galed yn y busnesau bach i dynnu pobl mewn.
"Does dim byd wedi newid ac mae'n rhaid iddo fe newid achos dydy pobl ddim yn dod mewn i'r dre. Mae hwnna'n rili bwysig i dre fel Aberaeron a Cheredigion achos maen nhw angen y busnes."
Bu Myfanwy Davies wrthi am ugain munud yn trio gwneud synnwyr o'r peiriant tocynnau yn Llanbedr Pont Steffan.
"Mae'n amhosib deall e'n iawn," meddai.
"Chi'n gorfod ffidlan, a darllen, ac yn y diwedd, fi'n gorfod holi rhywun, os wela' i rhywun, i wneud e i fi."
Gofyn am gymorth dieithryn oedd yr achos i Jean Everden, ymwelydd o Lanfairpwll hefyd.
"Mae e'n gymhleth iawn. Fi 'di dod ag arian yn barod i roi yn y peiriant a ffodus i'r dyn 'na i ddod a dangos i fi sut i'w wneud e.
"Pan dwi o gwmpas yn Ynys Môn, mae'n reit hawdd. Mae arian yn mynd mewn i'r peiriant a dyna hi, chi'n cael y ticed."
Mae busnesau lleol hefyd yn teimlo bod y peiriannau tocynnau parcio yn atal pobl rhag mwynhau a stopio yn y trefi.
Dywedodd Cerdin Price, dyn busnes o Lanbedr Pont Steffan: "Mae pobl yn dod i'r dref, maen nhw'n methu defnyddio'r peiriannau yma, achos dydyn nhw ddim yn rhwydd o gwbl.
"Maen nhw'n chwilio am rywle i barcio a dim ond falle hanner awr sydd gyda nhw, a dim ond un siop maen nhw'n gallu mynd.
"Mae'r siopau eraill yn colli allan achos mae pobl moyn hala hanner diwrnod yma a methu oherwydd y peiriannau yma."
Yn gyfreithwraig yn y dref, ychwanegodd Bethan Richards bod cleientiaid iddi hi yn hwyr i'w hapwyntiadau weithiau oherwydd trafferthion yn talu am docyn parcio.
"Ma' cleientiaid sydd wedi bod yn dod mewn i weld fi wedi bod yn cael trafferthion yn talu oherwydd bod nhw'n gorfod defnyddio cerdyn a falle bo nhw ddim yn deall y system.
"Mae hwnna yn achosi bach o bryder iddyn nhw pan maen nhw'n dod i weld ni wedyn ac maen nhw eisiau brysio allan i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn gyda'r car wedyn."
Dywedodd y cigydd Eifion Wyn Thomas o Aberaeron mai'r un oedd pryderon busnesau yno hefyd, yn enwedig yr effaith ar bobl leol.
Dywedodd: "Mae e wedi stopo nhw i ddod lawr just i grabio rhywbeth a so nhw'n dod lawr wedyn so mae e'n bach o niwsans."
'Annog i ddilyn cyfarwyddiadau'
Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Ceredigion bod y peiriannau tocynnau parcio wedi cael eu diweddaru yn haf 2022, a bod hynny wedi gwella a chyflymu'r broses o brynu tocyn.
"Fel rhan o ddull ehangach i geisio gwella, mae'r wybodaeth sy'n cael ei darparu yn y peiriannau i gefnogi'r cyhoedd wedi'i diweddaru a'i gwella i adlewyrchu adborth a phrofiad.
"Yn yr un modd ag unrhyw beiriannau hunanwasanaeth o'r natur hwn, sy'n dod yn fwyfwy amlwg a chyffredinol ym mywyd bob dydd, mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i ddilyn y cyfarwyddiadau i sicrhau defnydd mor hawdd â phosib o'r peiriannau."
Ychwanegodd y llefarydd fod y Cyngor ar ddeall bod y math hwn o beiriant yn bodoli mewn pum awdurdod lleol arall yng Nghymru ac nad yw newid y peiriannau yn cael ei ystyried.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2016