Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-2 Luton Town
- Cyhoeddwyd
Mae trafferthion Abertawe ar ddechrau'r tymor newydd yn parhau wedi iddyn nhw golli ar eu tomen eu hunain yn erbyn Luton Town yn Stadiwm Swansea.com.
Roedd yna ymdrechion cynnar gan Joël Piroe, a'r Elyrch gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant gydol yr hanner cyntaf ond doedd dim un ergyd amlwg ar y gôl.
Ond fe rwydodd Allan Campbell ar ran yr ymwelwyr wedi 14 munud o chwarae a'r ymwelwyr felly oedd â'r fantais ar yr egwyl.
Aeth pethau o ddrwg i waeth wedyn yn yr ail hanner wedi i gyd-chwarae effeithiol eilyddion Luton arwain at eu hail gôl - Carlton Morris wnaeth sgorio ar ôl cysylltu â phás Cameron Jerome i wneud hi'n 2-0.
Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch hen ennill mewn saith gêm gartref yn olynol.
Maen nhw hefyd yn llithro i 19eg safle'r tabl.