Y Bencampwriaeth: Bristol City 2-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe fethodd Caerdydd gyfle i godi i ddau safle uchaf y tabl trwy golli oddi cartref yn erbyn Bristol City brynhawn Sul yn y Bencampwriaeth.
Fe sicrhaodd y tîm cartref eu hail fuddugoliaeth o'r tymor, o ddwy gôl i ddim - a'u trydedd gêm yn olynol yn erbyn yr Adar Gleision.
Aethon nhw ar y blaen tua diwedd hanner cyntaf hynod gyffrous a chystadleuol, diolch i beniad Tommy Conway (41).
Fe rwydodd Sheyi Ojo i Gaerdydd cyn y chwiban ar gyfer yr egwyl ond roedd yn camsefyll ac felly doedd y gôl ddim yn cyfri.
Fe ddyblodd Robert Atkinson fantais Bristol City wedi 64 munud o chwarae.
Ildiodd Cedric Kipre gic rydd am drosedd yn erbyn Conway, cyn caniatáu'r gofod i Atkinson benio'r croesiad yn nerthol heibio'r golwr Ryan Allsop.
Fe wnaeth Rubin Colwill argraff ar ôl dod i'r maes fel eilydd ond roedd hi'n dalcen caled erbyn hynny i Gaerdydd geisio dod yn gyfartal.
Roedd Andreas Weimann yn meddwl ei fod wedi rhoi Bristol City dair gôl ar y blaen, ond roedd yntau, fel Ojo yn yr hanner cyntaf, yn camsefyll.
Er pum munud ychwanegol ar ben y 90, doedd dim goliau munud olaf i sicrhau hyd yn oed pwynt oddi cartref ac roedd Bristol City'n haeddu ennill.
Mae Caerdydd, o'r herwydd, yn llithro o'r wythfed i'r 12fed safle yn y tabl gyda saith o bwyntiau.