Athletwr 'mewn coma' yn dilyn gwrthdrawiad beic
- Cyhoeddwyd
Mae'r athletwr decathlon Ben Gregory mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad beic.
Cyhoeddodd cymar yr athletwr 31 oed ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod mewn coma ac yn cael cymorth peiriant cynnal bywyd.
Ychwanegodd Naomi Heffernan ei fod wedi torri'i benglog a'i wddf a'i fod wedi dioddef sawl gwaedlif i'r ymennydd.
Roedd Gregory yn bencampwr Cymru ar sawl achlysur ac fe gynrychiolodd ei wlad yn y Gemau'r Gymanwlad deirgwaith. Mae hefyd wedi cystadlu fel rhan o dîm Prydain.
"Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda ffrindiau a theulu Ben," meddai'r corff Athletau Cymru mewn datganiad.
"Mae gorchestion Ben fel athletwr yn dweud y cyfan: athletwr decathlon gorau Cymru erioed - Gemau'r Gymanwlad deirgwaith, deilydd y record Cymreig a chynrychiolydd Cymru a Phrydain sawl tro.
"Mae maint y gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn destament i'w boblogrwydd fel person ac fel athletwr. Fe allai pawb sydd wedi cael y fraint o hyfforddi neu gystadlu gyda Ben ddisgrifio'i awch anhygoel am fywyd, ei garedigrwydd, cefnogaeth a theyrngarwch.
"Byddwn ni oll yn parhau i weddïo am adferiad llwyr i Ben."
Mae'r hyn sydd wedi digwydd i Ben Gregory yn "newyddion trist iawn", medd Brian Davies, prif weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru, gan ei ddisgrifio'n "gymeriad mawr - ym mynd athletau ac yn gyffredinol".
Prawf o hynny, meddai, yw'r ffaith iddo gael ei ddewis i fod yn gapten ar dîm athletau Cymru yn y Gemau Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.
"[Mae] lot o egni 'da fe - fe sydd yng nghanol popeth sy'n digwydd fel arfer," dywedodd.
"Mae'r ymateb [i'r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol] wedi bod yn anhygoel. Mae'n dangos faint mae Ben yn meddwl i'r gymdeithas athletau yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr...
"Mae pawb yn gobeithio a gweddïo bod y newyddion yn mynd i wella o ran Ben."
Y tu hwnt i'r byd athletau mae Gregory'n gweithio fel model a hyfforddwr personol.
Yn chwaraewr rygbi'r gynghrair addawol pan yn ifanc, roedd ar lyfrau academi tîm London Wasps cyn astudio ym Mhrifysgol Loughborough a dewis gyrfa yn y byd athletau maes o law.
Bu'n agos at gael anaf difrifol mewn gwrthdrawiad beic blaenorol ym mis Hydref 2020.
Roedd ei feic mewn gwrthdrawiad â char yn Llundain, ac fe ddywedodd ar y pryd bod y ffaith ei fod yn gwisgo helmed wedi ei amddiffyn.
'Conglfaen i'r gamp'
Dywedodd James Williams, Prif Weithredwr Athletau Cymru, bod Ben yn "gonglfaen i'r gamp yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd."
"Mae'n debyg ei fod yn un o'r bobl fwyaf poblogaidd o fewn athletau yn y DU a dydw i ddim yn synnu gan y tywalltiad o emosiwn.
"Rwy'n meddwl bod pawb sydd wedi bod yn gwylio athletau yr haf hwn wedi gweld sut, er eu bod yn gampau unigol, mae'r holl athletwyr yn dod gyda'u gilydd ac rwy'n meddwl bod y gymuned athletau gyfan yn dymuno'r gorau i Ben a'i deulu ar hyn o bryd.
"Cefais wybod neithiwr trwy'r cyfryngau cymdeithasol, fel y gwnaeth y rhan fwyaf ohonom....gobeithio y bydd y 24/48 awr nesaf yn dod â rhyw fath o newyddion cadarnhaol i ni gyd."