Plaid Cymru yn gwahardd cynghorydd wedi llun 'pryderus'

  • Cyhoeddwyd
Llun o Jon Scriven yn dal gwnFfynhonnell y llun, Cyfryngau Cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Yn y neges, sydd bellach wedi'i dileu, mae'r Cynghorydd Scriven yn rhannu llun ohono'n sefyll ger y traeth

Mae Plaid Cymru wedi gwahardd cynghorydd a rannodd neges "senoffobig" ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae'n ymddangos yn dal gwn.

Mewn neges i gyd-fynd â'r llun, dywedodd y Cynghorydd Jon Scriven, sy'n cynrychioli ward Penyrheol ar gyngor sir Caerffili, ei fod yn "gwneud yn siŵr nad oedd unrhyw Saeson yn ceisio croesi'r sianel".

Yn y neges Facebook ar 8 Awst, sydd bellach wedi'i dileu, mae'r Cynghorydd Scriven yn dweud: "Ogmore-by-Sea tonight for a quick swim and make sure there wasn't any English people trying to cross the channel."

Fore Mawrth fe ddywedodd Plaid Cymru bod y cynghorydd wedi'i wahardd o'r blaid ac mae Heddlu'r De bellach wedi cyhoeddi eu bod yn ymchwilio.

Fe wnaeth Jon Scriven ymddiheuro ar Facebook gan ddweud fod y neges yn "annoeth".

Gwahardd wrth ymchwilio

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod "neges y Cynghorydd Scriven sydd bellach wedi'i dileu yn anaddas ac yn groes i farn a gwerthoedd Plaid Cymru".

"Mae'n ddyletswydd ar holl gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru i arfer y safonau uchaf," meddai.

"Mae'r Cynghorydd Scriven wedi'i wahardd o'r blaid wrth i ymchwiliad gael ei gynnal."

Mae cais wedi'i roi i'r Cynghorydd Scriven am ymateb.

Ffynhonnell y llun, Cyfryngau Cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r neges a'r llun gafodd ei rannu gan Jon Scriven bellach wedi cael eu dileu

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Caerffili Hefin David bod y llun yn "hynod o bryderus".

"Dylem fod yn ceisio uno pobl a mynd i'r afael â phryderon gwirioneddol fel costau byw, nid cyhoeddi delweddau sydd â'r bwriad o'n rhannu," ychwanegodd.

Ar Twitter dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd Andrew RT Davies bod angen i Blaid Cymru weithredu.

"Mae hwn yn gynghorydd Plaid Cymru. Ni all Adam Price adael i sgandal arall fynd yn ei flaen heb gymryd camau pendant. Mae'r math yma o agwedd senoffobig islaw ni."

Galwodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar y Blaid i ddiarddel y cynghorydd gan ychwanegu: "Mae'n gwbl amhriodol i swyddog etholedig wneud sylwadau o'r fath, pan ddylen nhw wybod yn well.

"Gyda chymaint o gasineb mewn gwleidyddiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe ddylen ni fod yn ceisio adeiladu pontydd, nid annog rhaniadau pellach.

"Rhaid i Blaid Cymru nawr wneud y peth iawn a diarddel y cynghorydd dan sylw."

Ymddiheuriad

Yn dilyn y feirniadaeth, fe wnaeth Jon Scriven rannu neges ar Facebook fore Mawrth yn ymddiheuro.

Dywedodd yn y neges: "Hoffwn ymddiheuro am unrhyw dramgwydd gafodd ei achosi gan fy neges Facebook sydd bellach wedi ei ddileu.

"Roedd yn annoeth a dwi wedi ymddiheuro i arweinydd y grŵp Lindsay Whittle sydd wedi derbyn fy ymddiheuriad."

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "ymwybodol o neges ar gyfryngau cymdeithasol yn cynnwys dyn yn arddangos beth sy'n edrych fel reiffl yn Aberogwr".

"Mae honiad o gyfathrebiadau maleisus wedi cael ei adrodd i ni ac rydym yn ymchwilio i'r mater," meddai'r Uwcharolygydd Michelle Conquer.

Pynciau cysylltiedig