Teithwyr mordaith yn cael blas o fywyd Abergwaun

  • Cyhoeddwyd
Gwyneth (trydydd o'r chwith) ac Andy (ail o'r dde) yn croesawu teithwyr o Texas a CaliforniaFfynhonnell y llun, Gwyneth Evans
Disgrifiad o’r llun,

Gwyneth (trydydd o'r chwith) ac Andy (ail o'r dde) yn croesawu teithwyr o Texas a Califfornia

Mae teithwyr mordaith fel arfer yn cael blas sydyn o bob ardal mae'r llong yn angori - ond yn Abergwaun mae trigolion lleol yn cynnig blas o'u bwyd a'u bywyd bob dydd hefyd.

Ers sawl blwyddyn mae pobl yr ardal wedi bod yn cynnig croeso cynnes i fordeithwyr i'w cartrefi gan baratoi cinio a chipolwg o fywyd yn yr ardal i'r ymwelwyr sy'n dod o bob cwr o'r byd.

Un sy'n mwynhau croesawu'r teithwyr yw Gwyneth Evans, sy' wedi bod yn helpu dau arall yn yr ardal i gynnig croeso yn eu cartrefi.

'Y porthladd cyfeillgar'

Meddai Gwyneth: "'Na beth maen nhw'n dweud am Abergwaun yw 'mae'n borthladd cyfeillgar'. Achos bod y ciniawau 'ma'n rhoi siawns i'r bobl sy' ar y cruise i gael bach o antur - mynd i dŷ rhywun a ffeindio mas sut maen nhw'n byw a cwrdd â phobl lleol.

"Ni'n cael lot o sbort.

"Maen nhw ishe gwybod tamed o hanes lleol. Dwi wedi fy ngeni 'ma a dwi'n byw 'ma erioed felly dwi'n gallu ateb cwestiynau a siarad 'da nhw am bethe lleol.

"Fynycha maen nhw 'di ymddeol. Ni 'di cael pobl o NASA (asiant gofod America), y cwmnïau olew ac mae'n eitha' diddorol cwrdd â nhw a siarad â nhw.

"Pan ddeith y llong mewn mae (person wedi gwisgo fel) Jemima Nicholas a gwynebau cyfeillgar Abergwaun (grŵp o bobl sy'n croesawu ymwelwyr i'r dref) ar y porthladd yn croesawu nhw, mae cwpl o stondinau a chôr hefyd.

Ffynhonnell y llun, Jeremy Martineau
Disgrifiad o’r llun,

'Gwynebau cyfeillgar Abergwaun' yn croesawu pobl i'r porthladd - mae rhai o'r llongau mordaith sy'n angori ym Mhorthladd Abergwaun yn cario hyd at 2500 o bobl

"Mae'r llongau (gan y cwmni Corinthian Cruises) yn dod o Gorffennaf i Medi - buon nhw'n neud 13 ymweliad i Abergwaun ar un adeg ond eleni dim ond chwech sy 'na. Mae lot yn dod o America a ni wedi cael pobl o Ganada a Mecsico hefyd.

"Maen nhw mor neis ac ishe gwybod lot o bethe - maen nhw'n gwerthfawrogi beth maen nhw'n gael i fwyta, ni'n trio rhoi pethe Cymreig.

"'Na beth maen nhw ishe yw i chi ishte gyda nhw i gael cinio ond allwch chi ddim cystadlu gyda beth maen nhw'n cael ar y llong achos mae five star chefs 'da nhw ar y llong so ni'n neud pethe weddol syml a trio cael pethe lleol fel caws Cymreig, tato o'r fferm a bara brith a Welsh cakes."

Ffynhonnell y llun, Jeremy Martineau
Disgrifiad o’r llun,

Y côr yn croesawu'r mordeithwyr

Yn helpu Gwyneth i groesawu ac i baratoi bwyd mae ei ffrindiau Andy Linforth a Rosalind Raymond.

Mae Rosalind yn byw ar fferm ac fel rhan o'r profiad mae'r ymwelwyr yn mwynhau trip i'r eglwys gyfagos, Eglwys Sant Cwrda yn Trefwrdan, sy'n brofiad arbennig iddynt yn ôl Gwyneth: "Ni'n licio cael nhw i fynd lan i'r eglwys ar yr heol - fan 'na gath tad a tad-cu David Lloyd George eu claddu.

"Mae'r ymwelwyr i gyd yn gwybod am David Lloyd George - ni'n gallu dweud tamed am hanes yr eglwys, fynycha mae'r bws yn mynd lan i'r eglwys ac yn dod nôl i mofyn nhw, maen nhw'n enjoio eu hunain gwmynt maen nhw'n pallu mynd nôl ar y bws!

"Mae'r gyrrwr ar y bws yn dweud, 'I hate coming here to you two because they don't want to leave!'

Ffynhonnell y llun, Gwyneth Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelwyr o America yn gweld Eglwys Sant Cwrda yn Trefwrdan

"Ni'n enjoio fe mas draw - ni'n teimlo ar y diwedd fel 'we did it'.

"Symo ni'n 'abod nhw ond cyn iddyn nhw fynd ni fel bod ni'n hen ffrindie ac maen nhw'n rhoi cusan a hyg. Maen nhw'n diolch o'r galon.

"Mae lot o'r hosts mor brysur yn neud bwyd maen nhw methu ishte gyda nhw ac maen nhw'n dweud, 'we've enjoyed you sitting with us and talking to us'.

"Ni'n enjoio fe mas draw a dwi'n licio jôc a weindio nhw lan. Maen nhw'n dysgu lot."

Mae rhwng 75 a 100 o ymwelwyr ar y tro yn cael cynnig cinio a chroeso yn Abergwaun fel rhan o ymweliad y llongau Corinthian - bydd Gwyneth a'i chriw yn croesawu i fyny at saith i fwyta gyda nhw ar y tro cyn fod y llong yn bwrw mlaen ar y daith. Fel arfer mae'r mordeithwyr hefyd yn mynd ar y bws i Dyddewi.

Gwledd

Meddai Gwyneth: "Mae Andy'n ffansio ei hyn yn damed o chef ac roedd e 'di neud quiche â laverbread ynddo a chaws Cymreig a tato o'r ardd. Maen nhw'n licio pethe fel' na, maen nhw'n enjoio.

"Ni hefyd yn neud dŵr lemon neu elderflower cordial. Ni'n dweud 'iechyd da' cyn bwyta.

"Ni'n siarad am bopeth ond am wleidyddiaeth a chrefydd. Ni'n enjoio mas draw."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig