Cwrdd â Twm Siôn Cati Tregaron
- Cyhoeddwyd
Os byddwch chi yn nhref Tregaron ddigon hir mae'n bosib iawn y gwelwch chi gip ar Twm Siôn Cati, y dihiryn chwedlonol, yn crwydro'r strydoedd.
Y dyn o dan o clogyn a thu ôl i'r mwgwd yw Dafydd Wyn Morgan, sy'n byw yn y dref ac wedi ymserchu yn hanes Twm ers degawdau.
"Rwy'n enwog iawn yn y dre am wisgo i fyny fel Twm Siôn Cati," meddai Dafydd.
"Twm Siôn Cati yw fy arwr, mae'n rhyw fath o alter ego a dwi'n cymharu Twm Siôn Cati a finne fel Clarke Kent a Superman."
Pwy oedd Twm Siôn Cati?
Mae'r chwedloniaeth am helyntion Twm fel lleidr a dihiryn tebyg i'r cymeriad Seisnig Robin Hood wedi tyfu dros y canrifoedd nes ei bod yn anodd gwahaniaethu rhwng y gwir a rhamant.
Fe wnaeth yr awdur llyfrau plant T Llew Jones boblogeiddio'r cymeriad yn yr 20fed ganrif gyda straeon anturus amdano.
Ond er mai niwlog yw'r gwirionedd am darddiad rhai o'r chwedlau amdano, roedd Tomos Jones o Dregaron yn berson go iawn.
Cafodd ei eni mewn tŷ o'r enw Porth y Ffynnon ger y dref tua 1530 ac enw ei fam, Catrin, yn rhoi ei ffug-enw iddo.
"Mae'n cael ei adnabod fel chwaraewr triciau go syfrdanol," meddai Dafydd.
"Yn bendant oedd e'n chwarae triciau yn erbyn y cyfoethog, y boneddigion. Roedd e'n teimlo dros bobl dlawd y cyfnod ac yn meddwl y galle fe gael y gorau ar bobl gyfoethog yr ardal er lles bobl dlawd."
Er bod straeon di-ri am ei anturiaethau yn y bryniau o amgylch Tregaron fel dyn ifanc mae'n debyg i Twm gael rhyw fath o droedigaeth yn nes ymlaen yn ei fywyd a dod yn enwog fel bardd a herodr - swyddog oedd yn cofnodi achau - a hyd yn oed fel ynad heddwch.
Dathlu ein harwyr
"Mae Twm Siôn Cati yn un o feibion yr ardal, un o feibion tref Tregaron ac mae'n un o arwyr cenedl Cymru hefyd.
"Mae'n bwysig iawn bod ni'n cofio ein harwyr, ein cymeriadau hanesyddol, chwedlonol ac yn dathlu hynny mor aml ag sy'n bosib."
Ac mae Dafydd, un o sylfaenwyr Cymdeithas Twm Siôn Cati, yn gwneud hynny bob cyfle sy'n bosib, gan arwain teithiau hanes ac ymweld ag ysgolion fel ei arwr yn aml.
Yn 2009 fe nododd y gymdeithas 400 mlwyddiant marwolaeth Twm ac mae Dafydd eisoes yn edrych ymlaen i ddathlu 500 mlwyddiant ei eni ymhen wyth mlynedd.
Mae Dafydd Morgan yn gyfforddus wedi gwisgo fel ei arwr erbyn hyn a does dim dal pryd bydd pobl Tregaron yn ei weld, yn aml yn mwynhau'r gwmnïaeth yng Ngwesty'r Talbot ar sgwâr y dref.
"Os dewch chi mewn i'r Talbot, unrhyw bryd, mae'n bosib iawn y gwelwch chi yma Twm Siôn Cati ei hun yn yfed peint bach wrth y bar yn sgwrsio gyda phobl leol ac ymwelwyr," meddai Dafydd.
Dyma rai o'r pethau sy'n gysylltiedig â Twm sydd i'w gweld yn Nhregaron:
Cerflun pren o Twm Siôn Cati ar sgwâr y dref.
Yng Nghanolfan y Barcud ar Heol Dewi mae copi o ewyllys Twm Siôn Cati i'w weld, wedi ei ddyddio 17 Mai 1609. Dyma ddyddiad dathlu Diwrnod Twm Siôn Cati heddiw. Mae'r gwreiddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae tŷ o'r enw Porth y Ffynnon ar gyrion y dref wedi ei adeiladu yn agos i'r tŷ gwreiddiol o'r un enw - sef man geni Tomos Jones.
Mae llwybrau yn arwain o'r dref am y rhosydd uwchlaw Tregaron ble byddai Twm yn ôl yr hanes yn dianc a chuddio.
Os ydych chi'n barod i fentro ymhellach gallwch ymweld ag Ogof Twm Siôn Cati ger Rhandirmwyn, lle dywedir iddo fod yn cuddio rhag ei elynion a'r awdurdodau. Parciwch yng ngwarchodfa RSPB Gwnffrwd-Dinas a dilyn y daith gylchol oddi yno.
A fydd Twm yn ymweld ag Eisteddfod Tregaron eleni felly?
"Mae'n bosib iawn bydd Twm yn ymddangos yn y lle fyddech chi ddim yn disgwyl ei weld e, yn bendant fydd Twm yma yn y Talbot, ar y sgwâr, yn crwydro'r strydoedd ac hefyd ar y Maes," meddai Dafydd.
Hefyd o ddiddordeb: