Penmaenpool: Dau ddyn ifanc mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae dau ddyn ifanc wedi cael eu hanafu'n ddifrifol wedi gwrthdrawiad yn ystod oriau mân fore Mercher yng Ngwynedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 00:25 wedi gwrthdrawiad rhwng Tywyn a Dolgellau.

Roedd y digwyddiad yn ymwneud â phum person a oedd yn teithio mewn cerbyd Suzuki Swift coch ar ffordd yr A493 ym Mhenmaenpool.

Cafodd dau berson eu cludo i Ysbyty Gwynedd - un gydag anafiadau difrifol ac un arall gydag anafiadau sy'n bygwth bywyd.

Dywed y Sarjant Emlyn Hughes o Uned Plismona'r Ffyrdd eu bod yn apelio am dystion.

"Gofynnir i unrhyw un a welodd y Suzuki Swift yn teithio ar hyd y A493 ym Mhenmaenpool cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni," meddai.

"Rwyf hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal ac sydd efallai â ffilm camera cerbyd."

Pynciau cysylltiedig