Cyn-weinidog: Syniadau ymgeiswyr ddim yn 'cwrdd â maint yr her'

  • Cyhoeddwyd
Stephen Crabb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Crabb wedi gwasanaethu mewn dwy swydd yn y cabinet

Dyw'r syniadau sy'n cael eu hyrwyddo gan ymgeiswyr arweinyddiaeth y Ceidwadwyr i ddelio â biliau ynni cynyddol ddim yn "cwrdd â maint yr her", yn ôl cyn-weinidog y llywodraeth.

Mae Stephen Crabb AS yn meddwl bod Rishi Sunak a Liz Truss yn deall maint y broblem ond galwodd ar y ddau dîm i wneud "gwaith polisi trylwyr" y tu ôl i'r llenni.

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru yn credu y dylai cefnogaeth ganolbwyntio ar helpu'r "mwyaf bregus".

Mae hefyd yn credu y bydd hi'n "anhygoel o anodd" i'r prif weinidog newydd ddod â'r blaid Geidwadol yn ôl at ei gilydd ar ôl yr ornest arweinyddiaeth.

Yn siarad ar raglen BBC Walescast, dywedodd AS Preseli Penfro, Stephen Crabb, y gallai'r cap ar brisiau ynni godi i lefelau "oddi ar raddfa unrhyw beth rydyn ni wedi'i brofi."

Mae'r cap pris yn pennu'r pris uchaf y gall cyflenwyr ei godi ar aelwydydd am bob uned o ynni a ddefnyddir.

Fe gododd 54% ym mis Ebrill, sy'n golygu y byddai cartref sy'n defnyddio swm arferol o nwy a thrydan yn talu £1,971 y flwyddyn.

Mae disgwyl i reoleiddwyr Ofgem gyhoeddi'r terfyn diwygiedig ddydd Gwener, pan ddisgwylir i'r ffigwr hwn godi i £3,576. Mae hyn yn debygol o gael ei ddilyn gan gynnydd pellach yn 2023.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae un o gwmnïau pŵer mwyaf y DU, Scottish Power, yn cynnig £100bn i rewi biliau ynni am ddwy flynedd ar y cap prisiau presennol, a ariannwyd yn wreiddiol gan lywodraeth y DU ond a ad-delir drwy filiau dros yr 20 mlynedd nesaf.

Mae Llafur hefyd wedi galw am rewi cap prisiau am chwe mis cychwynnol, wedi'i ariannu'n rhannol gan gynnydd mawr mewn treth ac elw cwmnïau olew a nwy.

Ond dywedodd Mr Crabb wrth Walescast na fyddai'n bosib "i gysgodi pawb rhag effeithiau'r cynnydd enfawr yma yn eu biliau".

Dywedodd y byddai rhewi'r cap pris o fudd i "deuluoedd cyfoethog a theuluoedd tlawd" ac y byddai'n arwain at "symiau gwirioneddol enfawr o arian yn cael eu defnyddio, byddwn yn dadlau, mewn ffordd nad yw wedi'i thargedu'n arbennig".

"Os oes yna bethau y gallwch chi eu gwneud i leddfu'r codiadau ar gyfer cronfa ehangach o gartrefi, edrychwch yn llwyr ar hynny, ond rwy'n amheus o'r farn hon y gallwch chi rewi pethau, insiwleiddio'r wlad gyfan yn erbyn prisiau cynyddol byd-eang a chadw hynny i fynd am gyfnod hir," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ailadroddodd y cyn ysgrifennydd gwaith a phensiynau ei alwad hefyd am adfer y codiad o £20 yr wythnos ar gyfer Credyd Cynhwysol.

"Does gennym ni ddim system hael o fudd-daliadau, waeth beth yw canfyddiad pobl," meddai Mr Crabb.

Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) yn galw am godi isafswm cyflog y DU i £15 yr awr "cyn gynted â phosib".

Dywedodd Stephen Crabb: "Byddai'n wych pe baen ni mewn byd, mewn economi, lle gallech chi wasgu botwm a gallai'r holl fusnesau bach hynny ledled Cymru a rhannau eraill o'r DU ddechrau talu isafswm cyflog o £15.

"Rwy'n meddwl mai'r gwir yw y byddai llawer, llawer o fusnesau yng Nghymru yn cael trafferth symud yn awtomatig i'r lefel honno."

Llywodraeth unedig, gydlynol?

Mae'r AS Ceidwadol wedi cefnogi cais arweinyddiaeth Rishi Sunak o'r cychwyn cyntaf, a dywedodd nad yw wedi cael ei demtio fel cydweithwyr Ceidwadol eraill i newid i gefnogi y ffefryn Liz Truss: "pan fyddwch chi'n gwneud penderfyniad i gefnogi rhywun, chi'n glynu gyda nhw".

"Pwy bynnag sy'n ennill... maen nhw'n wynebu swydd wirioneddol galed i ddod â'r blaid yn ôl at ei gilydd, wrth greu llywodraeth unedig, gydlynol."

Galwodd ar y prif weinidog nesaf i ddewis tîm gweinidogol "yn seiliedig ar gymhwysedd nid ideoleg ... a pheidiwch â gwobrwyo'r bobl sydd wedi bod gyda chi yn y frwydr o'r diwrnod cyntaf yn unig."

32 AS yn lle 40

Fe fydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal yng ngwanwyn 2024, yn ôl Mr Crabb, sy'n golygu y bydd Cymru yn ethol 32 AS yn lle'r 40 presennol.

O dan y cynigion interim, mae disgwyl i etholaeth Stephen Crabb, Preseli Penfro, gael ei rhannu'n ddwy sedd wahanol.

A yw'n bwriadu brwydro i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr yn un o'r seddi hynny?

Dywedodd Mr Crabb: "Fel arfer pan mae yna newid mawr... mae'n rhoi'r cyfle i bobl feddwl, ydy hon yn foment i feddwl am newid gyrfa neu wneud rhywbeth gwahanol?

"Rwy'n dal i deimlo'n hynod frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant ynghylch cynrychioli pobl yn Sir Benfro yn y Senedd.

"Ond gadewch i ni weld beth mae'r Comisiwn Ffiniau yn penderfynu arno ac yna fe wnaf rai penderfyniadau o hynny," ychwanegodd.

Gwyliwch y cyfweliad yn llawn ar Walescast am 22:40 ddydd Mercher.