Costau ynni: 140,000 aelwyd dal yn aros am daliad cymorth
- Cyhoeddwyd
Roedd bron i 140,000 aelwyd cymwys yng Nghymru heb dderbyn eu taliad cymorth ynni £150 erbyn dechrau mis Gorffennaf.
Daeth hynny i'r amlwg trwy gais rhyddid gwybodaeth gan y BBC sy'n dangos bod pobl nad ydynt yn talu eu treth gyngor trwy ddebyd uniongyrchol yn fwy tebygol o gael eu heffeithio.
Mae'r taliad ar gael i gartrefi ym mandiau treth gyngor A i D, neu hyd at E os oes gan rywun yn y tŷ anabledd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol "yn gweithio'n galed i ddarparu'r Cynllun Cymorth Costau Byw gwerth £152m ar ran Llywodraeth Cymru."
Esboniodd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf wrth y BBC: "Mae llawer o bobl sydd ddim yn talu treth cyngor ar ddebyd uniongyrchol, felly yn anffodus nid oes gennym eu manylion banc felly rydym wedi gorfod ysgrifennu at gartrefi unigol.
"Rydym wedi bod yn gofyn i bobl wneud cais ar-lein gan roi eu manylion banc ac mewn rhai achosion mae rhai pobl wedi meddwl mai sgamiau oedd y rhain.
"Rydym wedi gorfod ysgrifennu at rai cartrefi deirgwaith mewn rhai achosion".
'Hynod heriol'
Dywedodd bod costau ynni uwch "yn wirioneddol bryderus."
"Nid dim ond i gartrefi y mae'n bryderus, mae'n destun pryder i wasanaethau cyhoeddus. Mae fy awdurdod lleol fy hun yn wynebu cynnydd o £7m mewn costau ynni ac mae hynny wir yn mynd i daro gwasanaethau.
"Ac os bydd hyn yn parhau fel y rhagwelwyd yna rydym yn edrych ar ddyfodol llwm y flwyddyn nesaf.
"Mae'r cynnydd pris ar gyfer y flwyddyn nesaf rhwng 235% a 285% - mae hynny'n golygu bod gwresogi pyllau nofio, ysgolion, cartrefi gofal a hyd yn oed talu am drydan ar gyfer goleuadau stryd yn mynd i weld y cynnydd hwnnw. Mae hyn yn mynd i fod yn hynod heriol.
"Rwy'n mawr obeithio y bydd rhywfaint o gymorth ychwanegol yn y gyllideb frys sy'n cael ei thrafod, oherwydd fel arall bydd awdurdodau lleol mewn gwirionedd yn syllu i'r dyfnderoedd y flwyddyn nesaf."
Gofynnwyd i Mr Morgan a fydd angen cynnydd mewn treth gyngor.
Dywedodd: "Mae gan fy awdurdod lleol fy hun ragfynegiadau o fwlch yn y gyllideb ymhell dros £30m."
"Pe baem ni'n mynd i gau'r bwlch hwnnw ar ein pen ein hunain gyda threth gyngor byddai hynny'n gynnydd o 25%.
"Nid yw teuluoedd yn gallu fforddio hyd yn oed cynnydd o 5% yn fy marn i."
'Cyn gynted â phosibl'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarparu'r Cynllun Cymorth Costau Byw gwerth £152m ar ran Llywodraeth Cymru.
"Mae taliadau o £150 yn cael eu gwneud i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau treth gyngor A i D ac i bob aelwyd sy'n cael cymorth drwy ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol, waeth beth fo'u band treth gyngor.
"Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn gweithio cyn gynted â phosibl i wneud taliadau i aelwydydd cymwys ac mae ganddynt ystod o opsiynau ar gyfer cyflawni hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2022
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022