Sychder wedi'i ddatgan ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae sychder wedi'i ddatgan yn ne-ddwyrain Cymru a rhannau o'r canolbarth, sy'n golygu bod y statws bellach yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r wlad.
Gwnaethpwyd cyhoeddiad tebyg ar gyfer y de-orllewin yn gynharach y mis hwn.
Mae'r statws newydd yn seiliedig ar ddata ar gyfer llif afonydd isel, lefelau dŵr daear, ac effaith ar gynefinoedd a chamlesi yn hytrach na phryder am gyflenwad dŵr yfed.
Ond gofynnir i bobl fod yn ymwybodol o'u defnydd o ddŵr.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod yr ardaloedd yr effeithir arnynt o amgylch afonydd Hafren Uchaf, Gwy, Wysg, Taf, Rhymni, Elái a Ddawan.
Mae'n golygu bod pob un o awdurdodau lleol Cymru ar wahân i bedwar yn y gogledd bellach yn dod o dan y statws sychder.
Ar 22 Awst, roedd Cymru wedi cael 30.8% o'r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer mis Awst cyfan, yn amrywio o 15.2% yn Sir Benfro i 53.8% yng Nghonwy.
Roedd hyn yn dilyn y cyfnod sychaf o bum mis mewn 40 mlynedd, pan gafodd Cymru 61% yn unig o'i glawiad disgwyliedig rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod ardal rheoli sychder de ddwyrain Cymru wedi gweld 26.3% o'r glawiad cyfartalog misol, gyda'r Hafren Uchaf yn derbyn 25.7%.
Mae'n parhau i fonitro rhannau eraill o Gymru yn agos, lle mae pryderon am lifoedd isel a'r amgylchedd yn parhau.
Dadansoddiad ein Gohebydd Amgylchedd, Steffan Messenger
Roedd hi'n edrych yn debygol y byddai'r cyhoeddiad yma'n dod ar ôl i ranbarth gorllewin canolbarth Lloegr symud i statws sychder ddydd Mawrth.
Ar y pryd dywedodd CNC eu bod yn gweithio'n agos â'r awdurdodau amgylcheddol yn Lloegr i fonitro dalgylchoedd afonydd sy'n croesi'r ffin fel yr Hafren a'r Gwy.
Mae grwpiau afon wedi bod yn rhybuddio ers wythnosau bod lefelau wedi syrthio'n bryderus o isel mewn mannau, gyda dŵr cynnes hefyd yn bygwth pysgod a bywyd gwyllt.
Mae gwaharddiad ar bysgota yn parhau mewn rhai ardaloedd.
Yn ôl CNC data ar lif afonydd a lefelau dŵr dan ddaear wnaeth arwain at y datganiad heddiw - ei effaith i'w deimlo'n bennaf gan fywyd gwyllt a defnyddwyr afon fel nofwyr a'r sawl sy'n canŵio.
Mae'r newid mewn statws yn ymwneud mwy ar hyn o bryd â chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa, yn hytrach na chyflwyno cyfyngiadau newydd - gan annog pawb yn yr ardaloedd yma i fod yn hynod ofalus o'u defnydd dŵr.
Dywedodd Natalie Hall, rheolwr dŵr cynaliadwy ar gyfer CNC: "Mae'r cyfnod hir o dywydd sych a phoeth wedi rhoi ein hamgylchedd naturiol dan bwysau eithriadol.
"Gyda phrinder glawiad sylweddol yn y rhagolygon, a chyda'r effaith mae'r sefyllfa barhaus yn ei chael ar yr union ecosystemau rydym ni i gyd yn dibynnu arnynt, rydym wedi penderfynu symud de-ddwyrain Cymru a rhannau o'r canolbarth i statws sychder o heddiw ymlaen.
"Gyda de-orllewin Cymru eisoes mewn cyfnod o sychder, rydym yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa yng ngogledd Cymru a gweddill y canolbarth.
"Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â chwmnïau dŵr, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill mewn perthynas ag unrhyw effeithiau sy'n dod i'r amlwg ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth, a chyflenwadau dŵr ledled Cymru, ac ni fyddwn yn petruso cyn cymryd unrhyw gamau pellach yn ôl yr angen."
Yn ystod cyfnodau o sychder, gall cwmnïau dŵr hefyd gymryd mesurau i leihau'r galw a gwarchod cyflenwadau lle mae ganddynt ardaloedd lle ceir pryder, fel gwaharddiad Dŵr Cymru ar bibelli dŵr sydd mewn grym ar hyn o bryd yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022