Disgwyl i Robert Page aros â Chymru am bedair blynedd arall

  • Cyhoeddwyd
Robert PageFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae disgwyl i reolwr Cymru, Robert Page, arwyddo cytundeb newydd i aros yn y rôl am bedair blynedd arall.

Fe gamodd Page i'r swydd dros dro yn Nhachwedd 2020 yn lle Ryan Giggs, cyn iddo sicrhau cytundeb parhaol.

Roedd disgwyl i'w gytundeb ddod i ben ar ddiwedd ymgyrch Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.

Ond, mae disgwyl i Page arwyddo cytundeb arall fydd yn ei weld wrth y llyw ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2024 a Chwpan y Byd 2026.

Dan ei arweiniad, fe gyrhaeddodd Cymru ail rownd Euro 2020 ac fe fyddan nhw'n cystadlu yng Nghwpan Byd am y tro cyntaf ers 1958 eleni.

Yn gynharach y mis hwn, fe ddywedodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Steve Williams, wrth Chwaraeon BBC Cymru fod y bwrdd llywodraethol yn "agos i gytuno ar gytundeb hirdymor, cyffrous" gyda Page.

Fe ymddiswyddodd Ryan Giggs - a benodwyd fel rheolwr Cymru yn Ionawr 2018 - ym mis Mehefin eleni ar ôl cael ei arestio yn Nhachwedd 2020.

Mae Mr Giggs wedi ei gyhuddo o reoli drwy orfodaeth ac o ymosod ar ei gyn-gariad. Mae'n gwadu'r cyhuddiadau.