Hwlffordd: Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Freemans Way, HwlfforddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 17:30 ddydd Gwener yn Hwlffordd

Mae beiciwr modur wedi marw wedi i bedwar cerbyd daro'n erbyn ei gilydd yn Hwlffordd brynhawn Gwener.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ar Freemans Way am tua 17:30.

Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu, meddai'r heddlu.

Bu'r ffordd ar gau tan yr oriau man fore Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig