Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-2 Woking
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Aaron Hayden sgorio ddwywaith i Wrecsam
Llwyddodd Wrecsam i guro Woking o 3-2 yn Y Gynghrair Genedlaethol nos Sadwrn.
Wrecsam wnaeth sgorio gôl gynta'r gêm wrth i Aaron Hayden sgorio wedi tua hanner awr.
Roedd hi'n 1-0 i Wrecsam ar ddechrau'r ail hanner, ond fe lwyddodd James Daly i unioni'r sgôr wedi 47 munud.
Wedi i Aaron Hayden sgorio gôl arall ac adennill y blaen i Wrecsam, fe wnaeth Ollie Palmer gynyddu'r fantais wedi 81 munud.
Er i Woking ennill gôl arall bum munud yn ddiweddarach, Wrecsam aeth â hi yn y diwedd o 3-2.