Cwmbrân: Ymchwilio i lofruddiaeth wedi marwolaeth dynes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi marwolaeth dynes yng Nghwmbrân.
Fe wnaeth yr heddlu ddarganfod y ddynes 53 oed yn anymwybodol mewn cartref ar Ffordd Redbrook tua 07:25 fore Sadwrn.
Cafodd hi ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw yn ddiweddarach o'i hanafiadau, medd Heddlu Gwent.
Mae dyn 48 oed yn parhau yn y ddalfa wrth i'r heddlu ymchwilio.