Cynghorydd yn cwyno wedi ffrae canu'n Gymraeg yn Y Mwmbwls
- Cyhoeddwyd
Dywed cynghorydd cymuned o'r Mwmbwls, a symudwyd o'i rôl wedi ffrae am ganu'n Gymraeg, ei fod yn teimlo bod ei gyd-gynghorwyr Llafur wedi'i drin yn annheg.
Mae'r Cynghorydd Rob Marshall wedi cyflwyno cwyn i'r cyngor ac wedi galw ar y gadeiryddes i ymddiswyddo.
Ar 16 Awst fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio o blaid symud y Cynghorydd Marshall o'i rôl fel is-gadeirydd pwyllgor diwylliant y cyngor a hynny wedi iddo wrthod cais gan Ysgol Gynradd Llwynderw i ganu yn Gymraeg yng Ngŵyl Y Mwmbwls.
Nododd y cyngor cymuned hefyd bod yn rhaid iddo ymddiheuro'n ysgrifenedig i'r ysgol.
Bellach dywed y cynghorydd ei fod yn poeni am effaith y ffrae ar ei yrfa fel cerddor ac athro cerddoriaeth. "Mae eisoes yn cael effaith," meddai.
Mae'r cyngor wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn cwyn gan gynghorydd ond nad yw'n addas iddynt roi sylw ar hyn o bryd.
'Bwch dihangol'
Dywed y Cynghorydd Marshall ei fod "yn fwch dihangol" ac mae'n honni na wnaeth y cyngor ddilyn y drefn gywir wrth ddelio â'r gŵyn nac ymhellach yn y cyfarfod ar 16 Awst.
Roedd y Cynghorydd Marshall, a oedd yn trefnu'r ŵyl, wedi cysylltu ag ysgolion cynradd lleol bum wythnos ynghynt gan ddweud bod yna fwriad i ffurfio côr ac fe ddywedodd wrth Ysgol Gynradd Llwynderw nad oedd modd cynnwys y Gymraeg gan y byddai hynny yn anodd i blant ysgolion eraill ac nad oedd digon o amser i gynnwys caneuon ychwanegol.
Wedi e-byst pellach rhyngddo a'r ysgol am ganu cytgan neu bennill yn Gymraeg nododd y cynghorydd mai'r nod oedd uno'r ysgolion a nid cael un ysgol i sefyll allan.
Ychwanegodd nad oedd pobl ardal Y Mwmbwls yn poeni rhyw lawer am y Gymraeg ond ei fod e'n Gymro balch ac yn awyddus i hybu'r iaith.
Roedd cwyn yr ysgol, a wrthododd gymryd rhan yn yr ŵyl, yn cyfeirio hefyd at ohebiaeth ac ymddygiad y Cynghorydd Marshall, rheolaeth fewnol a systemau scrwtineiddio y cyngor cymuned a chynnwys un o'r caneuon.
'Dim sylw ar hyn o bryd'
Wrth gael ei holi gan ohebydd Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol dywedodd y Cynghorydd Marshall ei fod yn bwriadu mynd â'i gŵyn at gyrff allanol a'i fod wedi derbyn mwy o gymorth gan gynghorwyr Ceidwadol ers y ffrae na chynghorwyr Llafur.
Wrth gael ei holi am ei ddyfodol fel cynghorydd, dywedodd ei fod wedi gofyn i'w hun a oedd y cyfan yn werth y straen ond nad oedd am i bobl eraill benderfynu ar ei ddyfodol.
Mae Mr Marshall yn athro cerdd mewn ysgol uwchradd Gymraeg ac ysgol gynradd yn Abertawe ac mae'n dweud ei fod yn poeni am ddyfodol ei swydd.
Wrth gyfeirio at ei sylwadau mewn e-byst rhyngddo ag Ysgol Llwynderw dywedodd ei fod wedi dewis geiriau anaddas mewn brys a'r hyn roedd e'n ei olygu oedd bod cymuned Y Mwmbwls yn fwy Seisnig.
"Rwyf yn flin bod yr ysgol yn flin am hyn. Nid dyna oedd fy mwriad. Dydw i ddim yn faleisus."
Dywedodd nad oedd wedi cyfeirio e-byst gan yr ysgol i weddill y pwyllgor oherwydd diffyg amser.
Roedd naw cynghorydd o blaid symud y Cynghorydd Marshall o'i rôl, un yn erbyn ac fe wnaeth dau ymatal.
Nododd y cynghorwyr hefyd eu bod o blaid sefydlu gweithgor i ddiwygio'u darpariaeth iaith Gymraeg, llunio camau i sicrhau na fydd y fath sefyllfa'n digwydd eto, a'u bod yn ymrwymo i sicrhau hyfforddiant iaith Gymraeg i'r rheiny sy'n ddi-Gymraeg.
Cadarnhaodd y cyngor eu bod yn delio â'r gŵyn yn unol â'r protocol disgwyliedig ac nad oedd hi'n "addas gwneud sylw tan bod y broses wedi dod i ben".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2022