Prosiect i 'chwyldroi' y broses o drin carthion gwartheg?
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun allai drawsnewid y ffordd y mae ffermwyr yn trin carthion gwartheg yn barod i gael ei ymestyn yn fasnachol i ffermydd ar draws Cymru, yn ôl cydlynydd y prosiect.
Mae Partneriaeth Maetholion Fferm Tywi - sydd wedi ei leoli yng Ngholeg Sir Gâr yng Ngelli Aur - wedi datblygu proses i drin slyri er mwyn cynhyrchu gwrtaith soled a dŵr glân, ac i osgoi llygredd i afonydd.
Mae'r slyri yn cael ei drin gyda chyfres o beiriannau a hidlwyr ar y fferm, cyn y broses olaf, sef glanhau'r dŵr sy'n weddill trwy ddefnyddio gwelyau cyrs (reed beds).
Beth yw'r broses?
Dywedodd John Owen, rheolwr y prosiect yng Ngelli Aur: "Beth 'da ni wedi gwneud yw datblygu proses i dynnu maetholion allan o ddŵr.
"Mae'r slyri wedyn yn cael ei ddefnyddio fel ffurf sych sydd yn lleihau'r cyfle i lygru'r afonydd."
Ychwanegodd fod cwmnïau rhyngwladol, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhan o'r datblygiad.
"Mae hwn yn barod i gael ei rolio allan ar ffermydd ac mae cwmnïau masnachol yn trafod gyda ffermwyr yn barod ynglŷn â rhoi'r systemau ar ffermydd.
"Ar y 15fed o Fedi, mi fyddwn ni yn lansio'r broses i ffermwyr iddyn nhw gael gweld yn union sut mae'r system yn gweithio a sut all weithio law yn llaw gyda rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru."
Yn ôl Huw Williams, Uwch Swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru, mae slyri yn medru bod yn "broblem enfawr" i afonydd.
"Bob blwyddyn, ni'n gweld achosion o lygredd ble mae slyri naill ai'n mynd mewn i afonydd yn uniongyrchol neu os mae'n cael ei roi ar y tir ar adegau sydd ddim yn addas, mae e hefyd yn medru golchi mewn i afonydd," meddai.
Dywedodd fod y datblygiadau yng Ngelli Aur yn hynod gyffrous.
"Dros y blynyddoedd mae technoleg wedi edrych ar y mewnbwn i'r fuwch, ond ni nawr yn edrych ar beth sydd yn dod mas, a'r ffordd i ddefnyddio fe mewn ffordd fwy effeithiol," meddai.
"Mae'n arbed yr amgylchedd hefyd. Mae tynnu'r dŵr allan o'r slyri yn golygu bod y slyri'n fwy sych ac mae'n medru cael ei storio.
"Mae 80% o'r dŵr yn dod mas. Mae'r cynnyrch sych yn llawn mwynau a ffosffadau, a nitradau.
"Mae defnyddio hwnna ar yr amser iawn, trwy gymorth yr apps, mae'r ffarmwr yn medru gweld beth yw'r amser mwyaf addas i roi hwn mas.
"Mae'r dŵr hefyd yn medru cael ei ailgylchu mewn i'r system, ac yn ystod haf fel ni wedi cael eleni, mae'r ffaith bod y dŵr yna'n medru cael ei ailgylchu yn arbed costau mawr i'r ffarmwr."
Mae'r slyri o 400 o wartheg yn cael ei drin yn effeithiol yng Ngelli Aur.
Mae John Owen yn cytuno y gall y prosesau sydd wedi eu datblygu "chwyldroi" y ffordd mae ffermydd llaeth yn trin gwastraff slyri.
"'Da ni'n gallu lleihau faint o stôr sydd angen ar ffermydd o gwmpas 80%. 'Da ni'n gallu defnyddio'r slyri mewn ffyrdd sych sydd yn well i'r tir, ac yn sicr yn well i'r pridd.
"A 'da ni hefyd yn gallu ailgylchu'r dŵr, a maes o law, 'da ni'n gobeithio bydd y canlyniadau yn dangos y gall y gwartheg yfed y dŵr."
Mae'r dechnoleg yn cael ei ddatblygu ar adeg pan mae pris gwrtaith artiffisial wedi cynyddu 140%.
"Mae'n rhaid i ni wneud gwell defnydd o'r gwrtaith 'da ni'n ei gynhyrchu ar ein ffermydd. Mae'n adnodd cenedlaethol," medd Mr Owen.
Fe all ffermwyr naill ai defnyddio'r gwrtaith sydd wedi ei drin neu ei werthu ymlaen i ffermydd eraill.
Law yn llaw gyda'r broses beirianyddol, mae'r Bartneriaeth wedi datblygu meddalwedd i gynghori ffermwyr beth yw'r adegau gorau i wasgaru carthion. Mae modd lawrlwytho'r feddalwedd ar ffurf ap.
Mae'r peiriannau i drin y slyri yn costio rhai cannoedd o filoedd o bunnau, ond yn ôl John Owen, fe allai ffermwyr gydweithio yn y dyfodol i rannu offer a chreu canolfannau rhanbarthol i drin eu slyri.
Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal yng Ngelli Aur ar 15 Medi er mwyn rhoi gwybodaeth i ffermwyr am y dechnoleg newydd.
Mae wyth o ffermwyr eisoes wedi dangos diddordeb mewn defnyddio'r dechnoleg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019