Ryan Giggs: Dim angen penderfyniad unfrydol gan y rheithgor

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Giggs yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Mae'r barnwr yn yr achos yn erbyn y cyn-bêl-droediwr Ryan Giggs wedi dweud nad oes rhaid i'r rheithgor fod yn unfrydol yn eu penderfyniad.

Mae cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, yn gwadu cyhuddiad o reoli Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer Emma.

Fe fydd y rheithgor yn ailymgynull fore Mercher ar ôl bod yn ystyried eu dyfarniad ers 23 Awst.

11 rheithiwr sy'n rhan o'r achos bellach, wedi i un o'r aelodau gael eu taro'n wael a'u rhyddhau o'u dyletswyddau yr wythnos ddiwethaf.

Ddydd Mawrth, mewn ymdrech i ddod i benderfyniad, fe wnaeth y barnwr ddweud wrth y rheithgor y byddai'n derbyn dyfarniad y mae 10 o'r 11 rheithiwr yn cytuno arno.

Clywodd Llys y Goron Manceinion fod y rheithgor bellach wedi bod yn ystyried eu dyfarniad am dros 16 awr.

Gofynnwyd iddynt a oedden nhw wedi gallu dod i benderfyniad ar bob cyhuddiad, a'r ateb oedd nad oedden nhw wedi llwyddo i wneud hynny.