Diwrnod olaf 'trist' gwefan newyddion The National
- Cyhoeddwyd
Mae'r wefan newyddion Gymreig, The National wedi cadarnhau mai dydd Mercher yw diwrnod olaf y gwasanaeth.
Fe ddaeth i'r amlwg yr wythnos diwethaf bod y gwasanaeth yn debygol o gau wedi ymgynghoriad wrth i'r argyfwng costau byw arwain at ostyngiad yn nifer y tanysgrifwyr ac incwm hysbysebion.
Ond mae neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher yn cadarnhau bod "hi'n ddiwrnod trist" gan mai "heddiw, mae ein gwasanaeth yn dod i ben".
Mae'r neges wedi ennyn llu o ymatebion yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth ac yn mynegi siom nad oedd modd iddo barhau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd y gwasanaeth ei lansio Ddydd Gŵyl Dewi y llynedd dan berchnogaeth Newsquest, un o gwmnïau newyddion mwyaf Prydain, gan gyflogi tri newyddiadurwr.
Roedd yn fwriad o'r dechrau i'w gyhoeddi ar-lein yn bennaf, ond roedd yna fersiwn print hefyd yn ystod wyth mis cyntaf y gwasanaeth.
Wrth gadarnhau'r ymgynghoriad i gau'r gwasanaeth, dywedodd y cwmni bod y "gystadleuaeth o gyfeiriad gwasanaethau newyddion am ddim, gan gynnwys BBC Cymru ar-lein, yn golygu na fu'n bosib i The National Cymru gynyddu nifer y tanysgrifwyr sy'n talu lefel gynaliadwy".
Ychwanegodd bod "nifer fach o swyddi mewn perygl o ganlyniad i'r cynnig" a'u bod yn "ymgynghori gyda'r staff sy'n cael eu heffeithio er mwyn ceisio lleihau diswyddiadau posib".
'Rydym wedi cyflawni gymaint'
Mewn erthygl yn nodi'r diwrnod olaf dywedodd golygydd cyntaf The National Cymru, Gavin Thompson: "Rydym wedi cyflawni gymaint.
"Mae ein newyddiaduraeth wedi helpu gwneud ein llywodraethau'n atebol, rydym wedi rhoi sylw i faterion roedd fawr neb arall yn poeni yn eu cylch a chyhoeddi straeon na fyddai unrhyw un arall yn ei wneud."
Ychwanegodd: "Mae Cymru'n haeddu cyfryngau cenedlaethol cryf a byddwn yn parhau i chwarae rhan yn hynny o beth trwy ein gwefan Cymraeg Corgi.Cymru."
Cafodd gwasanaeth Corgi Cymru, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi dan faner Newsquest, ei sefydlu yn gynharach eleni, ac mae'n derbyn cyllid blynyddol o £100,000 gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022