Prisiau ynni: 'Troi popeth bant a gwisgo dillad twym'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y cap ar brisiau ynni yn cynyddu 80% ym mis Hydref.
Bydd pris cyfartalog biliau ynni yn cyrraedd £3,549, cyhoeddodd y corff sy'n goruwchwylio'r diwydiant ynni, Ofgem, fore Gwener.
Mae hynny'n gynnydd o 80% ar y bil cyfartalog presennol o £1,971.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad mae teuluoedd a chymunedau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn pryderu am gadw dau ben llinyn ynghyd.
Cyfuniad o ffactorau gan gynnwys y rhyfel yn Wcráin, cynnydd yn y galw am nwy a chwmnïau ynni yn mynd i'r wal sydd yn bennaf gyfrifol am yr heriau sylweddol mae nifer yn eu hwynebu.
Ond dyw'r rhesymau hynny'n fawr o gysur i bobl sy'n gweld eu biliau tanwydd yn cynyddu.
Wrth ymateb fore Gwener fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar ei gyfrif trydar "bod angen cyllideb frys a bod rhaid rhewi pris egni, a threthi'r busnesau olew a nwy".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth y DU y byddai "cymorth uniongyrchol yn parhau i gyrraedd pocedi pobl dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, wedi'i dargedu tuag at y bobl sydd ei angen fwyaf fel aelwydydd incwm isel, pensiynwyr a phobl ag anableddau".
Ychwanegon nhw y byddai un ym mhob pedwar o gartrefi yn derbyn £1,200 o gymorth ychwanegol ac y byddai pawb yn derbyn £400 oddi ar eu bil ynni dros y gaeaf fel rhan o becyn gwerth £37 biliwn.
Mae'r cynnydd yn sylweddol, meddai'r ymgynghorydd ynni Huw Michael wrth raglen Dros Frecwast fore Gwener - a hynny "yn ôl y disgwyl".
"Mae'n gynnydd uchel iawn wrth gwrs, ac mae'n adlewyrchu'r cynnydd yng nghost nwy a thrydan ar y farchnad gyfanwerthol."
Fe fydd Ofgem yn adolygu'r cap eto ym mis Ionawr. Fe allwn ni weld "cynnydd sylweddol pellach" bryd hynny os yw prisiau yn y farchnad yn parhau ar eu lefel presennol, yn ôl Mr Michael.
"Mae'n anodd gweld pethau'n newid [er gwell] yn y tymor byr - pwy a ŵyr mewn blwyddyn beth fydd y sefyllfa?"
'Sut allwn ni gredu bod hyn yn digwydd?'
"Fedrai'm coelio'r cynnydd," meddai un sy'n darparu bwyd i'r henoed a phobl bregus yng Nghaernarfon.
Fe ddywedodd Chris Summers o wasanaeth Porthi Dre ar Dros Frecwast: "'Dan ni yn gweld 'wan bydd yr angen am y gwasanaeth yn tyfu achos y cynnydd i'r cap."
"Cynnydd o 80%, sut ydyn ni'n gallu eistedd yn ôl a chredu bod hyn yn digwydd?
"Mae'n edrych fel bod o'n mynd i fod yn flwyddyn drist iawn.
"Mae costau yn mynd i effeithio ni mewn bob ffordd, nid jest yr ynni ond costau cynhwysion, sut ma'r cynhwysion yn dod aton ni."
"Mae'n recipe for disaster," ychwanegodd y Parchedig Mererid Mair, gweinidog capel Salem yng Nghaernarfon ac sydd hefyd yn weithiwr cymunedol yn Eglwys Noddfa Caernarfon.
"Ma' pobl yn stryglo yn barod, 'dan ni'n byw efo chwyddiant, ma' costau byw 'di codi, costau bwyd - a dyw cyflogau ddim yn codi ar yr un raddfa a budd-daliadau ddim yn codi ar yr un raddfa."
Dywedodd bod y cymorth sydd ar gael bellach yn annigonol.
"Mae 'na ychydig o help yna ond mae'r rhan fwyaf 'di cael gafael ar hwnna, felly lle ma pobl yn mynd nesa'? Pobl sydd yn sâl, pobl sydd methu gweithio?
"Mae 'na fanciau bwyd, mae help gwisg ysgol - pethe bach ydyn nhw, ma' angen datrysiad mawr nawr yn does?"
'Problem i bawb'
Roedd sawl un yng Nghaerfyrddin ddydd Gwener yn pryderu wedi'r cyhoeddiad.
"Dyw e ddim yn deg o gwbl ar bobl ifanc na phobl hŷn," medd Alisha Thomas, gan ychwanegu y bydd hi'n gaeaf anodd i'r ifanc.
"Fi'n 'nabod rhai sy'n troi popeth bant a just yn gwisgo dillad twym yn lle."
Un arall oedd yn poeni yw Lorna Lumby, sy'n byw ag wyth o bobl eraill ac yn dweud bod "popeth yn mynd yn ddrutach".
"Ni ddim yn cynllunio troi'r gwres ymlaen tan mis Tachwedd er mwyn arbed arian. Bydd siŵr o fod angen torri lawr ar ddŵr poeth - llai o gawodydd a phethau fel 'na."
Roedd Ben Johnson yn cytuno ei bod hi'n broblem fyddai'n effeithio ar bawb, o'r ifanc i'r hen.
'Rhieni yn eu dagrau'
Mae'r cyhoeddiad fore Gwener "yn cadarnhau ofnau pobl anabl," meddai Tom Marsland o elusen Scope.
"Mae bywyd eisoes yn costio mwy i bobl anabl. Nawr, fe fydd y gost o wefru cadair olwyn neu ddefnyddio peiriant anadlu yn treblu mewn blwyddyn.
"Mae'n rhaid i'r llywodraeth weithredu nawr. Fe ddylen nhw ddechrau drwy ddyblu'r pecyn cymorth ac ystyried tariffau is i gwsmeriaid anabl sydd angen mwy o ynni."
Hefyd yn lleisio pryder difrifol mae elusen Action for Children. Mae rhai rhieni yn cyrraedd "yn eu dagrau, ac yn poeni'n ofnadwy sut y gwnawn nhw fwydo'u plant", medd llefarydd.
"Mae llawer o'r teuluoedd hyn eisoes wedi torri costau i'r bôn a does unman ar ôl iddyn nhw wneud toriadau pellach."
Fe wnaethon nhw alw am gymorth ar frys i deuluoedd, gan ddweud ein bod yn wynebu "argyfwng cenedlaethol".
Mae'n rhaid i'r llywodraeth weithredu i wella effeithlonrwydd ein cartrefi er mwyn arbed arian i bobl, medd Cyfeillion y Ddaear wrth ymateb i'r cap.
"Does dim modd cyfiawnhau'r absenoldeb o gynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi'r DU, pan y byddai hyn yn helpu i leihau y defnydd o ynni, torri allyriadau, a chymryd cannoedd o bunnoedd oddi ar filiau ynni aelwydydd bob blwyddyn."
Fe ddywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd Janet Finch-Saunders ei bod yn falch o becyn cymorth Llywodraeth y DU.
"Fodd bynnag, wrth i ni wynebu gaeaf ansicr, mae'n hanfodol i'r prif weinidog newydd gymryd camau cadarn a radical i gefnogi'r rheiny sy'n dioddef fwyaf ar draws y DU."
'Pawb yn fwy gwyliadwrus'
Yng nghanolfan Age Cymru Gwynedd a Môn ym mhentref Bontnewydd, mae'r cynnydd yn y cap a chostau byw yn gyffredinol yn bwnc llosg nad oes modd ei osgoi.
"Neshi jest sbïo ar fy email bore ddoe ar yr electricity bill - mi oedd o £150 yn fwy na mis Awst flwyddyn diwethaf," meddai un o'r aelodau.
"Mae'n poeni ni, mae'r ddau o' ni wedi ymddeol, 'dan ni adref lot ac mae'r gŵr efo COPD [clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint] felly mae'n rhaid ei fo gadw'n gynnes."
Yn ôl un o aelodau eraill y grŵp, mae siopa bwyd wedi cynyddu o leiaf £20 yr wythnos.
"Dwi'n chwilio am yr offers 'ma. Mae petrol a bob dim wedi codi hefyd - dwi'n meddwl fod pawb yn fwy gwyliadwrus rŵan."
Yn ôl aelod arall mi fydd nifer rŵan yn gorfod penderfynu rhwng "bwyta a chadw'n gynnes".
"Dwi'n meddwl fod hynny'n drist ond dwi'n sylwi ar brisiau bwyd yn cynyddu bob tro dwi'n mynd i siopa.
"Petha' bob wythnos, 'dy'n nhw ddim yn codi bob 5c ond ella' bob 10c neu 20c - ma'n lot!"
Wedi ailagor ers dechrau'r pandemig, mae'r ganolfan Age Cymru yn hafan i bobl hŷn ddod i gael cwmni, gwneud ffrindiau ac anghofio am bryderon bywyd.
Am bris rhesymol iawn, mae 'na weithgareddau, bwyd a chyfle am sgwrs.
Yn ôl Eleri Jones, un o weithwyr Age Cymru, mae effaith yr argyfwng costau byw i weld yn amlwg ar bobl sy'n dod i'r ganolfan.
"Maen nhw yn poeni. Mae sefyllfa pawb wedi newid ond wrth ddod i fan hyn maen nhw'n cael sgwrs efo'i gilydd a maen nhw'n gweld bod pobl eraill yn poeni - nid jest nhw," meddai.
"Mae siopa yn ddrud, biliau ynni, mae o yn anodd arnyn nhw."
Mae Ms Jones yn pwysleisio bod cymorth ar gael a dylai unrhyw un sy'n poeni am dalu biliau gysylltu, gan ychwanegu bod trafod pryderon yn helpu.
"Maen nhw'n cael sgwrsio yma. Ella' bod adref yn poeni am bethau, a wedyn wrth ddod fa'ma a siarad efo rhywun arall maen nhw'n gweld 'wel, mae pobl eraill yn poeni hefyd'.
"Wedyn mae'r broblem bach yna, drwy siarad, mae o oll yn helpu!"
Mae Joyce Evans yn gwirfoddoli yn Age Cymru ac wrthi'n paratoi bwyd i'r aelodau wrth i ni ymweld.
Mae hi'n dweud bod costau byw bellach yn effeithio ar bawb.
"Dydy fy nhŷ i ddim yn un oer ofnadwy, ond gyda'r nos mae'n siŵr fydda i'n gweld bod 'isio rhoi'r gwres ymlaen - wel fydda i'n trio peidio.
"Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau [anodd] i weld be fydd y gost oherwydd pan mae rhywun ar ei bensiwn does na'm llawer yn dod i mewn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022