Oedd hi'n hydref ddiwedd Awst yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
Coedlan ger Castell Bodelwyddan ar 27 AwstFfynhonnell y llun, Derec Owen
Disgrifiad o’r llun,

Carped o ddail mewn coedlan ger Castell Bodelwyddan ar 27 Awst

Dail yn disgyn yn lliwiau cynnes ac yn crensian dan draed. Dyna'r darlun sy'n cael ei gysylltu â diwedd Medi a Hydref yn draddodiadol.

Ond mae nifer o bobl wedi sylwi ar arwyddion cynnar o dymor yr hydref dros wythnosau olaf Awst eleni.

Y coedwigwr Iwan Meirion fu'n trafod ar Galwad Cynnar pam bod rhannau o Gymru wedi profi 'Hydref Ffug' cyn i'r haf fynd heibio.

Beth yn union yw Hydref Ffug?

Eleni rydan ni wedi gweld y coed yn colli dail a chynhyrchu had llawer cynt nag unrhyw flwyddyn rydw i'n ei gofio.

Yr enw sy'n cael ei roi ar hynny ydi Hydref Ffug (Fake Autumn yn Saesneg) a'r rheswm dros hyn yn amlwg ydi bod dail yn newid lliw ac yn disgyn oddi ar y coed yn debyg iawn i be fyddwn ni yn ei weld ar ddiwedd mis Medi ac yn mynd i fis Hydref.

Achos hyn ydy'r haf andros o boeth rydyn ni wedi ei brofi eleni.

Ffynhonnell y llun, Derec Owen
Disgrifiad o’r llun,

Ydy'r carw ifanc/elain yma yn rhyfeddu at weld y dail yn goch ym mis Awst tybed?

Fedrith coeden megis derw canmlwydd oed amsugno rhwng 45 a 300 litr o ddŵr bob un dydd. Ac eto o'r holl ddŵr sy'n cael ei amsugno gan blanhigion mae llai na 5% wedyn yn aros yn y planhigyn ei hun ar gyfer tyfu.

Mae'n ddibynnol iawn ar y dŵr sydd ar gael wedyn yn y pridd i ail hydradu yn ystod oriau'r nos, sydd wedyn yn disodli'r colled dŵr yn ystod oriau y dydd.

Rŵan, er ein bod ni yn dechrau gweld glaw, mae'r tir dal yn andros o sych. 'Dach chi'n gweld hynny ymhob man. Dydi'r coed ddim yn cael cyfle i storio'r dŵr a'r lleithder yna ar gyfer oriau'r nos felly rydyn ni'n gweld y coed yn diodddef ac yn newid lliw a disgyn had yn andros o gynnar.

Y coed yn cwffio i oroesi'r haf

Mae gan y goeden ryw reddf i oroesi. Beth sy'n digwydd gan goeden ydy ei bod hi'n creu hormonau fyddai hi fel arfer yn ei gynhyrchu yn yr hydref i dynnu'r maeth a'r lleithder o'r dail a'r canghennau.

Mewn hydref arferol mae hyn yn paratoi y goeden wedyn ar gyfer goroesi'r gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Derec Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mochyn Coed wedi disgyn yn gynnar ar garped coch

Be' rydyn i'n ei weld rŵan ydi'r coed yn cwffio i oroesi'r haf andros o sych yma rydan ni wedi ei brofi.

'Dan ni wedi gweld llawer o rywogaethau megis derw, bedwen a draenen yn creu had yn andros o gynnar. Mae hyn eto'n ffordd mae coeden yn ceisio goroesi sychder a gwneud yn siŵr bod cenhedlaeth newydd wedi hynny - dyna ydi'r reddf i oroesi.

Felly mae rhywogaethau coed yn andros o rywogaethau clyfar iawn.

Ffynhonnell y llun, Derec Owen
Disgrifiad o’r llun,

Dysgub y dail...

Rydan ni'n adnabod y dderwen yn frenhinben y goedwig, a choed castan hefyd. Nhw sy'n ymdopi orau a'r coed iau sydd am ddioddef fwyaf; sgynnon nhw ddim y gwreiddiau yna sydd wedi datblygu yn ddyfnach fel y coed hŷn.

Ond maen nhw'n dweud, os welan ni hafau sych yn amlach, ac mae hynny yn debygol efo newid hinsawdd, mi fydd y coed hŷn yn dioddef yn y dyfodol.

Oes gaeaf caled wrth y drws i'r adar bach?

Hwyrach mai un peth welwn ni efo haf eleni, gan bod y goeden wedi creu'r had, y cnau a'r aeron yn gynt, ydy effaith hynny ar famaliaid bach fel y pathew a'r adar.

Ffynhonnell y llun, Derec Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tymor casglu wedi dod yn gynnar i'r mamaliaid bach...

Fel arfer awn nhw ati i hel rhain ar gyfer storio dros y gaeaf o ddiwedd mis Medi ymlaen. Gan bod yr hadau wedi disgyn mor gynnar dwi'n siŵr bydd y mamaliaid yma'n cael eu taro yn ddipyn caletach y gaeaf yma.

Tynnwyd holl luniau'r darn mewn coedlan ger Castell Bodelwyddan ar 27 Awst 2022.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig