Diswyddo technegydd ysgol wedi euogfarn delweddau anweddus

  • Cyhoeddwyd
Matthew BatemanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Matthew Bateman, 40, ei garcharu am 14 mis

Mae technegydd technoleg gwybodaeth mewn ysgol wedi cael ei ddiswyddo ar ôl cael ei ganfod yn euog o droseddau'n ymwneud â delweddau anweddus o blant.

Fe gafodd Matthew Bateman, 40 o Grwbin yng Nghydweli, ei ddiarddel gan Gyngor Sir Gâr pan gychwynnodd yr heddlu ymchwilio i'r honiadau.

Mae bellach wedi ei ddiswyddo yn sgil yr euogfarn.

Cafodd ei ganfod yn euog o chwe chyhuddiad yn ymwneud â delweddau anweddus o blant, gan gynnwys tri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant a thri pellach o rannu delweddau anweddus.

Cafodd Bateman ei garcharu am 14 mis yn Llys y Goron Abertawe ar 25 Gorffennaf, ac fe fydd ar gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.

Fe wnaeth Bateman hefyd dderbyn gorchymyn atal niwed rhywiol fydd yn para 10 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bateman yn gweithio yn Ysgol y Strade, Llanelli, ond does dim dystiolaeth bod y troseddau'n ymwneud â'i waith

Roedd yr arbenigwr technoleg gwybodaeth yn gweithio yn Ysgol y Strade, Llanelli, ond fe ddywedodd y cyngor nad oed unrhyw dystiolaeth bod yr un o'r troseddau yn ymwneud â'i waith yn yr ysgol.

Fe ddywedodd y Cynghorydd Glynog Davies: "Rwyf am bwysleisio i rieni a llywodraethwyr nad oes pryderon diogelwch yn ymwneud ag unrhyw ddisgybl nag aelod arall o staff mewn cysylltiad â'r ymchwiliad hyn."

"Yn dilyn canlyniad yr achos llys a'r achos cyfreithiol, cafodd y sefyllfa ei gyfeirio yn ôl i'r corff llywodraethu er mwyn iddo gwblhau ei weithdrefnau mewnol, yn unol â pholisïau'r ysgol, ac mae cytundeb yr unigolyn gyda'r cyngor wedi dod i ben."

Pynciau cysylltiedig