Prisiau ynni: 'Anodd i bobl ag MS ymdopi dros y gaeaf'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywed Eirian Lewis ei fod yn poeni sut y bydd pobl eraill sydd â MS yn ymdopi dros y gaeaf

Bydd chwarter y bobl sy'n byw â chyflwr Sglerosis Ymledol (MS) yn methu â fforddio gwresogi eu cartrefi y gaeaf hwn, yn ôl elusen MS Cymru.

Maen nhw'n galw am fwy o gefnogaeth ariannol ar frys i bobl ag anableddau er mwyn eu helpu i ymdopi â'r cynnydd mewn costau byw dros fisoedd y gaeaf.

Ddiwedd Awst fe gyhoeddodd Ofgem, y corff sy'n goruchwylio'r diwydiant ynni, y bydd y cap ar brisiau ynni yn cynyddu 80% ym mis Hydref ac y byddai pris cyfartalog biliau yn cyrraedd £3,549.

Mae Eirian Lewis o ardal Arberth yn Sir Benfro yn cefnogi'r alwad. Cafodd y cyn-blismon 69 oed ddiagnosis o gyflwr Sglerosis Ymledol yn 2003.

Gyda chostau ynni yn codi mae'n poeni am bobl eraill dros y gaeaf sydd â'r un symptomau ag ef.

'Nifer yn methu fforddio talu'

Dywed fod cadw'n gynnes yn bwysig iawn i lawer o bobl sydd ag MS gan fod newid tymheredd yn gallu achosi i'r symptomau waethygu.

O ganlyniad, mae angen gwresogi'r cartref am amser hir pan fydd y tymheredd yn gostwng.

"Fe fydd hynny yn golygu biliau uchel i lawer a bydd nifer yn methu fforddio talu," meddai.

"Bydd ishe gwres ar bobl gyda'r gaea' yn dod a bydd lot o bobl eleni yn gweld hi'n anodd iawn i fforddio cael gwres yn y tŷ... Mae'n mynd i fod yn galed iawn iawn i lot fawr o bobl."

Mae dros 5,600 o bobl yn byw gydag MS yng Nghymru. Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar nerfau y corff ac yn aml mae'n cael effaith ar y gallu i gerdded, meddwl, siarad neu fwyta.

Dros fisoedd y gaeaf mae elusen MS Cymru yn galw am fwy o help ariannol i bobl wrth i gostau byw gynyddu.

Maen nhw hefyd yn poeni am effaith posib straen ar iechyd pobl sydd ag MS, sydd hefyd yn ofid i Mr Lewis.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eirian Lewis (canol) yn arfer bod yn blismon cyn cael diagnosis o gyflwr Sglerosis Ymledol yn 2003

"Pan bod stress levels pobl lawr mae e'n helpu," dywedodd.

"Fi'm yn gw'bod shwd ma' pobl yn mynd i ymdopi, a rwy'n gofidio'n fawr. Mae hwnna yn r'wbeth i bobl ymhobman - nid jyst Cymru.

"Mae rhaid i'r llywodraeth yn San Steffan 'neud r'wbeth a 'neud r'wbeth yn gloi.

"Os na fyddan nhw'n g'neud r'wbeth fe fydd mwy o bobl yn mynd i mewn i'r ysbyty yn sâl y gaea' yma a bydd hynny yn rhoi straen fawr ar y gwasanaeth iechyd - yn enwedig o gofio bod prinder staff yn broblem fawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ofgem wedi cyhoeddi y bydd y cap ar brisiau ynni yn cynyddu fis nesaf, gyda phris cyfartalog biliau yn cyrraedd £3,549

Mae pobl sydd ag anableddau fel MS yn aml iawn yn wynebu costau ychwanegol ac angen pŵer ar gyfer gwefru cadeiriau olwyn, golchi dillad yn aml neu'n gorfod gwresogi'r tai drwy'r dydd er mwyn cadw yn gynnes pan fo'r tywydd yn oeri.

"Ma' rhaid cadw'ch hunan yn dwym. Gyda fi ma'n rhaid cadw fy hunan yn dwym yn enwedig o fy ysgwydd lawr i'r canol achos mae'r ysgwydd yn achosi poen mawr i fi bob dydd," meddai Eirian Lewis.

"Mae gwres yn bwysig iawn i rywun fel fi."

Fel Mr Lewis, mae teuluoedd eraill sydd ag anableddau yn dweud y bydden nhw'n dibynnu llawer y gaeaf yma ar flancedi a siwmperi cynnes.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod wedi cyflwyno mesurau i helpu gyda'r costau ychwanegol.