Costau byw: 'Pethau bychan hyd yn oed yn drafferth rŵan'
- Cyhoeddwyd
Costau byw: 'Ti'n goro gwylio bob dim ti'n neud'
"Mae rhywun yn poeni lle mae'n mynd i stopio, achos mae pob dim sy'n digwydd yn cael effaith ar bob dim arall."
I Delyth Williams o Ddeiniolen yng Ngwynedd, sy'n fam sengl i dri o blant, mae'r argyfwng costau byw eisoes yn dechrau brathu o fewn eu cartref.
O geisio gwneud i brydau bwyd ymestyn yn bellach, i lai o wario ar weithgareddau teuluol ar y penwythnos, mae'n un o nifer cynyddol o bobl ar draws Cymru sy'n gorfod gwneud penderfyniadau ariannol anodd.
Daw hyn wrth i'r cynnydd mwyaf mewn graddfa chwyddiant ers 40 mlynedd gael ei gyhoeddi ddydd Mercher - gan gynyddu i 9% yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill.
Roedd y ffigwr blaenorol yn 7%.
Gadael swydd i fynd 'nôl i addysg
Bedair blynedd yn ôl fe benderfynodd Delyth fynd yn ôl i'r coleg, ac mae bellach yn astudio am radd Meistr mewn Rheolaeth yn ogystal â gweithio dwy swydd rhan amser i gynnal ei theulu.
Ond mae'r argyfwng diweddaraf wedi gwneud iddi amau pa mor ddoeth oedd y cam hwnnw.
"Dwi'n trio gweithio a gwella fy hun... a 'neud penderfyniad anodd i adael swydd dda i fynd 'nôl i addysg," meddai.
"Rŵan dwi bron yn difaru, achos dwi'm yn meddwl fyddai ddim gwell off pan fydd hyn yn dod i ben oherwydd y costau byw."

Delyth Williams: 'Dwi'm yn meddwl fyddai ddim gwell off pan fydd hyn yn dod i ben oherwydd y costau byw'
Mae'n dweud ei bod bellach yn gwario £15 yr wythnos yn fwy ar betrol er mwyn cludo ei phlant yma ac acw, ac mae gweithio o adref hefyd yn golygu bod cynnydd mewn biliau nwy a thrydan wedi ei tharo hi'n fwy nag eraill.
Rhannau eraill o'r gyllideb sy'n cael eu tynhau felly, gyda chinio dydd Sul nawr yn gorfod ymestyn i ddarparu gwerth tridiau o fwyd, a llai o wario ar fynd allan i wneud pethau gyda'r plant.
Mae hynny'n dod a rhwystredigaethau gwahanol, meddai - gyda mab a merch yn eu harddegau, a mab arall pump oed sydd ag anghenion arbennig.
"Mae 'na lot o bethau bach, ti'n ffeindio bod chdi'n goro gwylio bob dim ti'n neud," meddai Delyth.
"Alli di ddim cynnig picnic i blant 16, 17, lle fedri di 'neud 'efo plant bach - 'di o'm yn gweithio 'efo plant hynach!
"Mae'r pethau maen nhw isio 'neud yn costio lot o bres, a dwi'n teimlo ar ôl cyfnod clo mor hir maen nhw isio 'neud y pethau 'dyn nhw ddim 'di cael gwneud ers tro, a 'dan ni dal ddim yn gallu 'neud o."
Cynnydd chwyddiant
Ym mis Mawrth fe gododd lefel chwyddiant i 7.0% o'i gymharu â 6.2% ym mis Chwefror, gan olygu ei fod ar ei lefel uchaf ers mis Mawrth 1992.
Fe gododd eto ddydd Mercher i 9%.
Ddydd Llun fe awgrymodd un o weinidogion Llywodraeth y DU, Rachel Maclean y dylai pobl ystyried gweithio mwy o oriau neu newid swydd os oedden nhw'n poeni am eu sefyllfa ariannol.

Mae sylwadau Rachel Maclean wedi codi gwrychyn rhai
Ond mae sylwadau Ms Maclean wedi codi gwrychyn rhai sy'n dweud nad yw hynny'n ddewis hawdd.
Ddydd Mawrth, fe gododd plismones o Heddlu Gogledd Cymru ei phryderon am gostau byw gyda'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel.
Yng nghynhadledd flynyddol Ffederasiwn yr Heddlu, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Vicky Knight - sydd â dros 20 mlynedd o brofiad - ei bod wedi gorfod benthyg arian oddi wrth ei mam i dalu am ginio ysgol i'w phlant a thanwydd.
"Dwi'n gweithio gyda rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymuned a dwi'n caru fy swydd," dywedodd.

Fe ofynnodd y Ditectif Gwnstabl Vicky Knight i Priti Patel a fyddai hi'n gallu goroesi ar gyflog swyddog prawf, sydd tua £1,200 y mis
"Fodd bynnag, os yw cyfradd chwyddiant yn codi a dwi ddim yn gallu talu fy morgais a dwi'n methu talu am danwydd, dwi ddim yn mynd i allu dod i'r gwaith.
Dywedodd ei bod wedi ymweld â'i chyfrifydd a chael cyngor i "adael yr heddlu, gweithio am 22 awr yr wythnos a chael budd-daliadau" ac y byddai hi mewn sefyllfa well.
Dywedodd Ms Patel bod cyflog ac amodau yn rhywbeth y mae wedi "ymrwymo" i weithio arno gyda'r ffederasiwn.
'Gwneud fy ngorau'
Fe ychwanegodd Delyth Williams na allai hi newid ei swydd chwaith a'i bod yn gwneud popeth sy'n bosib i gadw to uwch ben ei theulu.
"Fedra' i'm ffitio dim mwy fewn - 'swn i wrth fy modd 'swn i'n gallu gweithio mwy a rhoi fy hun mewn sefyllfa gwell, ond ar hyn o bryd dydi o just ddim yn bosib."
Yn hytrach mae'n dweud y gallai camau eraill gan y llywodraeth fod o help i deuluoedd yn ei sefyllfa hi, gan gynnwys codi lefel budd-daliadau plant, a chynnig rhagor o gymorth i ofalwyr fel hi sydd ddim yn derbyn arian ar hyn o bryd os ydyn nhw hefyd yn fyfyrwyr.
"Dwi'n meddwl weithiau maen nhw ond yn sbio ar y bobl sydd ddim yn gweithio, 'dyn nhw ddim yn sbio ar y bobl sydd yn gweithio ac yn troi 'neud eu gorau, ond ella dal methu cael y safon o fyw ddylian nhw gael," meddai.
"Pan ti'n trio gwella dy hun, mae o'n ddigalon.
"Dwi isio trio cadw'n hun, cadw'r teulu, a 'neud y gorau fedra' i, to uwch fy mhen.
"Dwi'm isio pethau mawr, ond mae'r pethau bychan hyd yn oed yn drafferth rŵan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2022
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd1 Mai 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022