Y Bencampwriaeth: Millwall 2-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dechrau gwael Caerdydd i'r tymor barhau wrth iddyn nhw gael eu trechu'n haeddiannol gan Millwall ddydd Sadwrn.
Bu'n rhaid disgwyl ychydig dros awr am gôl gynta'r gêm, ac i'r tîm cartref ddaeth honno trwy'r eilydd Charlie Cresswell.
Roedd Caerdydd yn dal yn y gêm nes y munud olaf, pan lwyddodd Millwall i selio'r fuddugoliaeth gyda gôl gan Benik Afobe.
Mae Caerdydd yn disgyn i'r 21ain safle yn y Bencampwriaeth o ganlyniad i'r canlyniad, a hynny ar ôl chwarae wyth o gemau.