Y Gynghrair Genedlaethol: Dorking 0-5 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ollie Palmer ddwywaith ar brynhawn cyfforddus iawn i Wrecsam

Fe wnaeth dechrau addawol Wrecsam i'r tymor barhau brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth swmpus oddi cartref yn Dorking.

Aeth Wrecsam ar y blaen wedi 20 munud, wrth i Ollie Palmer benio croesiad Jacob Mendy i'r rhwyd.

O fewn munudau roedd Mendy wedi dyblu mantais yr ymwelwyr, cyn i Luke Moore sgorio i'w rwyd ei hun i'w gwneud yn 3-0 ar hanner amser.

Ar ddechrau'r ail hanner sgoriodd Palmer ei ail, a phedwaredd Wrecsam, cyn i Elliot Lee ychwanegu pumed i'r Cymry.

Mae'r canlyniad yn gweld Wrecsam yn aros yr ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol wedi saith gêm.