Llyn Brianne: Hen ffermdy yn ymddangos oherwydd y sychder

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ffermdy yn ymddangos yn Llyn Brianne ger Llanymddyfri oherwydd y sychder diweddar

Mae Fferm y Fannog yn wag ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Am ba bynnag reswm, fe benderfynodd y teulu olaf i ffermio'r tir anghysbell hwn fod bywyd haws ar gael y tu hwnt i ffiniau Dyffryn Tywi.

Bu'r fferm a'i ysguboriau yn sefyll yn wag am ddegawdau cyn diflannu dan ddŵr Llyn Brianne gafodd ei greu ar ddechrau 70au'r ganrif ddiwethaf.

Ond bob hyn a hyn mae Fferm y Fannog yn ail ymddangos, a'r adeilad erbyn hyn yn un o atyniadau dirgel Dyffryn Tywi.

Hefyd o ddiddordeb:

Disgrifiad,

Olion Capel Celyn yn dod i'r golwg wedi'r tywydd sych

'Colli bach o siâp bob tro'

Mae Huw Thomas, a dynnodd y lluniau, yn byw gerllaw ac yn teithio'n aml i gerdded a beicio o amgylch y llyn.

"Dim ond yr un fferm yma gafodd ei foddi gan y llyn," meddai Huw Thomas.

"Doedd 'na ddim llawer yma pan adawodd y teulu olaf, roedd hi'n fferm anghysbell. Ond mae'n dod i'r amlwg pan ddaw tywydd sych.

"Roedd mwy ohoni i weld yn 2018, roedd posib cerdded o amgylch y fferm bryd hynny. Roedd hi'n amlwg hefyd yn '95, '84 a haf '76.

"Mae'n dda gweld siâp y tir fel oedd e," meddai. "Ma'r prif adeilad i weld yn colli bach o siâp bob tro. O'r blaen roedd posib gweld mwy o'r simdde a siâp y to, ond dros amser mae'n colli rhywfaint o siâp."

Mae disgwyl i lefelau dŵr Llyn Brianne godi dros yr wythnosau nesaf, ac mae disgwyl y bydd Fferm y Fannog unwaith eto dan ddŵr.

Pynciau cysylltiedig