Dim ail achos ond beth fydd dyfodol Ryan Giggs?

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images

Pan ymddiswyddodd Giggs o'i swydd fel rheolwr Cymru y llynedd, dywedodd mai ei fwriad oedd ailafael yn ei yrfa reoli ar ôl i'r achos llys ddod i ben.

Mae o bellach yn rhydd i wneud hynny, yn dilyn cadarnhad bod achos llys yn ei erbyn wedi cael ei ddileu wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron dynnu'r cyhuddiadau'n ôl.

Mi fydd hi'n ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd nesaf iddo.

Cyn iddo gael ei arestio ym mis Tachwedd 2020, mi oedd Giggs wedi gwneud swydd wych gyda Chymru, yn eu harwain nhw i Euro 2020 drwy chwarae pêl-droed agored a chyffrous.

Doedd hi byth yn mynd i fod yn hawdd iddo olynu Chris Coleman - oedd yn arwr cenedlaethol - ond mi oedd Giggs yn benderfynol o wneud pethau ei ffordd ei hun.

Mi oedd o'n awyddus i gael tîm ifanc llawn egni, felly mi oedd yn rhaid iddo wneud penderfyniadau dewr.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Giggs ei benodi'n rheolwr Cymru ym mis Ionawr 2018

Er mawr syndod i bawb mi gafodd o wared ar rai o arwyr Euro 2016 - y capten Ashley Williams, Chris Gunter, Neil Taylor, Andy King, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes.

Fe welon ni chwaraewyr iau fel Chris Mepham, Joe Rodon, Tom Lockyer, Harry Wilson, Ethan Ampadu a David Brooks yn chwarae'n fwy rheolaidd.

Yn y pen draw fe dalodd hyn ar ei ganfed.

"Un o nosweithiau gorau fy mywyd", meddai yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Hwngari ym mis Tachwedd 2019, a sicrhaodd eu lle yn y rowndiau terfynol.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y stadiwm yn orlawn a sawl un o'r dorf yn eu dagrau wrth i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd

Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd byd Giggs ei droi wyneb i waered, a chafodd o ddim y cyfle i reoli ei wlad yn Euro 2020 - gan i'r gystadleuaeth gael ei symud i 2021 oherwydd y pandemig.

Mi fysa rhywun yn meddwl y bydd Giggs yn awyddus i ddod o hyd i swydd newydd mor fuan â phosibl. Felly beth yw'r opsiynau iddo?

Symud dramor

Mae hyn yn sicr yn opsiwn iddo, yn enwedig gan gofio ei fod dal yn enw mawr yn y byd pêl-droed ledled y byd.

'Da ni'n gweld mwy a mwy o chwaraewyr a rheolwyr yn symud i Saudi Arabia'r dyddiau hyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-chwaraewr Steven Gerrard eisoes wedi cymryd swydd fel rheolwr yn Saudi Arabia - a welwn ni Giggs yn gwneud tebyg?

Mae'r gynghrair yno yn un sy'n tyfu mewn poblogrwydd gan fod chwaraewyr fel Cristiano Ronaldo a Karim Benzema wedi ymuno â chlybiau yno, ac yn fwy diweddar 'da ni wedi gweld Steven Gerrard yn ymuno ag Al-Ettifaq fel rheolwr.

Mae Giggs yn sicr y math o 'enw mawr' fyddai'n codi proffil y wlad hyd yn oed yn fwy.

Uwch-gynghrair Lloegr

Mae Giggs wedi rheoli am gyfnod byr iawn ym mhrif adran Lloegr. Nôl yn 2014 ar ôl i David Moyes gael ei ddiswyddo fel rheolwr Manchester United - Giggs gymerodd yr awenau dros dro tan ddiwedd y tymor, gan ennill dwy o'i bedair gêm wrth y llyw.

Fe arhosodd yn Old Trafford fel is-reolwr i Louis van Gaal am ddau dymor ar ôl hynny.

Dwi'n siwr mai ei freuddwyd yn y pen draw ydy cael ei benodi yn rheolwr parhaol Manchester United ryw ddydd, ond mae'n anodd gweld hynny yn digwydd yn y dyfodol agos.

I ddechrau mae'n ymddangos fod United yn symud i'r cyfeiriad cywir dan arweinyddiaeth Erik ten Hag, ac yn ail mae gan Giggs lot i'w brofi fel rheolwr ar ôl bod allan o'r gêm am dair blynedd.

Canolbwyntio ar Salford City

Tydi Giggs ddim yn gwneud unrhyw waith rheoli na hyfforddi gyda Salford City, ond mae o'n berchen ar 10% o'r clwb ers 2014.

Bryd hynny mi oedden nhw'n chwarae yn yr wythfed haen ym mhyramid pêl-droed Lloegr, ond maen nhw wedi ennill pedwar dyrchafiad ac yn chwarae yn Adran 2 erbyn hyn - yr un adran a Chasnewydd a Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Y freuddwyd i Giggs a'i gyd-berchnogion ydy gweld Salford City yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr rhyw ddiwrnod.

Tybed a welwn ni Giggs yn chwarae mwy o ran yn natblygiad y clwb yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn enwedig os y bydd 'na ddyrchafiad arall i Adran Un y tymor nesaf?

'Ddim am gael eu cysylltu efo fo'

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru dywedodd y barnwr a sylwebydd pêl-droed Nic Parry ei fod yn tybio ei bod yn "annhebygol" y gwelwn ni Giggs yn dychwelyd fel rheolwr yn fuan.

"Mae o'n ddyn dieuog - mae ei gymeriad o yn union fel ag yr oedd o - ond yn y byd sydd ohoni mae 'na lawer iawn o wybodaeth wedi dod allan yn ystod yr achos a fu.

"Gwybodaeth fyddai - yn ôl rhai - yn bwysig iawn i bobl fel noddwyr, fyddai'n golygu eu bod nhw ddim am gael eu cysylltu efo fo.

"Mae 'na achosion eraill wedi bod, er enghraifft Ched Evans - y pêl-droediwr o Gymru, wedi cael ei ganfod yn euog, wedyn yn ddieuog - ac ar ôl bod yn ddieuog mae o wedi dod nôl i chwarae pêl-droed.

"Mae'r peth yn bosib, ond y mwya' ydi'r enw, y mwya' ydi'r sylw, a'r mwya' fydd y gofal cyn i neb benderfynu ydyn nhw am fynd amdani."

Ychwanegodd ei fod yn rhagweld y byddai hi'n fwy tebygol i Giggs ddychwelyd fel rheolwr "tu hwnt i ffiniau'r wlad yma".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nic Parry yn credu ei bod yn "annhebygol" y gwelwn ni Giggs yn dychwelyd fel rheolwr yn fuan

Mae colofnydd y Telegraph, Jim White - oedd hefyd yn gyd-awdur hunangofiant cyntaf Ryan Giggs - yn credu bod ei enw da wedi cael ei ddifrodi gormod, ac nad oes dyfodol iddo mewn pêl-droed.

Dywedodd Mr White ei fod yn credu y byddai'n anodd i unrhyw glwb ei gyflogi.

"Fe oedd rheolwr Cymru pan oedden nhw ar y brig... allai fod wedi mynd â nhw i Gwpan y Byd ond bu'n rhaid iddo gamu nôl," meddai.

"Aiff e ddim nôl yno... fedrai ddim gweld sut all unrhyw un ei gyflogi.

"Yr unig bosibilrwydd yw, gan ei fod yn gyd-berchennog yn Salford City, y byddai modd iddo gyflogi ei hun i bob pwrpas, ond hyd yn oed yna dwi'n credu byddai ei gyd-berchnogion yn credu y byddai hynny'n gwneud gormod o ddrwg i enw da'r clwb."

Roedd Mr White yn credu fod potensial iddo gael gyrfa dramor oherwydd ei lwyddiant mawr fel chwaraewr yn y gorffennol.