Ryan Giggs: Dileu cyhuddiadau yn erbyn cyn-reolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r achos llys yn erbyn cyn bêl-droediwr a rheolwr Cymru, Ryan Giggs, wedi cael ei ddileu ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron dynnu'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn ôl.

Roedd ail achos yn ei erbyn i fod i ddechrau yn Llys y Goron Manceinion ar 31 Gorffennaf.

Roedd Mr Giggs, 49 oed, wedi gwadu cyhuddiadau o ymosod ac o ymddygiad rheolaeth gorfodol yn erbyn ei gyn gariad Kate Greville, ac o ymosod ar ei chwaer hithau Emma.

Yn yr achos cyntaf ym mis Awst 2022, fe wnaeth y rheithgor fethu â chyrraedd dyfarniad wedi dros 20 awr o drafod ar ddiwedd achos barodd am bedair wythnos.

Yn y gwrandawiad ddydd Mawrth, dywedodd y Barnwr Hilary Manley fod Mr Giggs felly yn ddi-euog o'r tri chyhuddiad yn ymwneud gyda Kate ac Emma Greville.

Nid oedd Mr Giggs yn y llys gan fod y barnwr wedi cytuno nad oedd angen iddo fod yn bresennol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Giggs ei swydd fel rheolwr Cymru cyn i Robert Page gymryd yr awenau

Dywedodd bargyfreithiwr Mr Giggs, Chris Daw KC: "Mae'n rhyddhad mawr i Mr Giggs fod yr achos hwn wedi dod i ben o'r diwedd wedi bron i dair blynedd o frwydro i glirio'i enw.

"Mae nawr yn bwriadu ailadeiladu ei fywyd a'i yrfa fel dyn di-euog."

Ddim am roi tystiolaeth

Yn y llys ddydd Mawrth, dywedodd Peter Wright KC na fyddai Gwasanaeth Erlyn y Goron bellach yn bwrw 'mlaen gyda'r achos.

Dywedodd fod cyn-gariad Mr Giggs, Kate Greville wedi "mynegi anfodlonrwydd" i roi tystiolaeth mewn ail achos, gan fod rhoi tystiolaeth yn yr achos cyntaf wedi cael effaith fawr arni hi a'i chwaer Emma.

Dywedodd Mr Wright: "Nid oedd hwn yn benderfyniad a gymerwyd yn ysgafn."

Ychwanegodd nad oedd tebygrwydd o gael euogfarn ar y cyhuddiad cyntaf - ymddygiad rheolaethol a gorfodol - ac nad oedd bellach er budd y cyhoedd i barhau i erlyn ar y cyhuddiadau eraill o ymosod ar Ms Greville a'i chwaer.

Dywedodd hefyd: "O dan yr amgylchiadau yna, ni fyddwn yn cynnig unrhyw dystiolaeth ar y tri chyhuddiad."

Atebodd y barnwr Hilary Manley: "Rwyf yn ffurfiol yn cofnodi rheithfarn di-euog ar y cyhuddiadau yna."

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Giggs yn ystod ei gyfnod fel rheolwr dros dro yn Manchester United

Ychwanegodd Chris Daw KC ar ran Mr Giggs: "Mae'n rhyddhad mawr fod yr erlyniad wedi dod i ben o'r diwedd.

"Mae wastad wedi bod yn ddieuog o'r cyhuddiadau... fe ddywedwyd nifer fawr iawn o gelwyddau amdano yn y llys."

'Amgylchiadau'n newid'

Dydy'r drefn o dynnu cyhuddiadau'n ôl "ddim mor anarferol a fydde pobl yn ei ddisgwyl", yn ôl y barnwr Nic Parry.

Ond dywedodd, wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, fod yr achos hwn wedi cael mwy o sylw gan ei fod "mor anferth".

"Ond be' 'ma rhaid cofio, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron... 'ma nhw 'di penderfynu nawr nad oes 'na debygolrwydd realistig o euogfarn," dywedodd.

"Ma' hynny'n brawf ma' nhw'n ystyried bob cam o'r ffordd. Mae amgylchiadau'n newid.

"Mae hwn yn benderfyniad fydden nhw ond wedi 'neud ar ôl trafodaeth fanwl mewn cydweithrediad gyda'r heddlu.

"Ond ar ddiwedd y dydd mae 'na newid wedi bod sy'n golygu bod y prawf 'na, yn sydyn, ddim yn un ma' nhw'n meddwl y gallan nhw neidio drosta fo.

"Dieuog ydy dieuog. Dyna ydy'r diwedd."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Giggs ei benodi'n rheolwr Cymru ym mis Ionawr 2018

Fel chwaraewr, enillodd Giggs bencampwriaeth yr Uwch-gynghrair 13 o weithiau, Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith, pedair Cwpan FA a thair Cwpan y Gynghrair.

Enillodd 64 o gapiau dros Gymru cyn cael ei benodi'n rheolwr ar y tîm cenedlaethol, ond gadawodd y swydd yn dilyn cyfnod o absenoldeb ers Tachwedd 2020.

Yn ôl ffynonellau agos, mae Mr Giggs wedi dweud ei fod yn dymuno dychwelyd i'r byd pêl-droed nawr gan ei fod "â busnes anorffenedig yn y gêm".

Dywedodd un wrth asiantaeth newyddion PA: "Ei fwriad yw ailafael yn ei yrfa rheoli a hyfforddi... Dros y dair blynedd diwethaf mae ei fywyd wedi bod ar stop ond mae e'n ddyn pêl-droed mawr.

"Mae wedi ei gael yn ddi-euog ac mae eisiau dychwelyd i'r gêm. Mae'n ddyn pêl-droed drwyddi draw."

Pynciau cysylltiedig