Achos newydd i Ryan Giggs yn 2023 ar ôl rhyddhau rheithgor
- Cyhoeddwyd
Bydd y cyn-bêl-droediwr Ryan Giggs yn wynebu ail achos ar gyhuddiadau iddo ymosod ar ei gyn-gariad ar ôl i reithgor fethu â dod i ddyfarniad.
Roedd cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, wedi gwadu cyhuddiadau o reoli ei gyn-gariad Kate Greville drwy orfodaeth ac o ymosod arni hi a'i chwaer.
Wedi achos a barodd dros dair wythnos, bu'r rheithgor yn trafod am bron i 23 awr cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau'r wythnos ddiwethaf.
Roedd gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wythnos i benderfynu a fyddai Giggs yn wynebu achos newydd.
Dywedodd y bargyfreithiwr, Peter Wright QC, bod yr achos wedi cael ei drafod ar lefel uwch gan y CPS a bod "parodrwydd" gan dystion i gyflwyno tystiolaeth eto.
Penderfynodd barnwr y byddai'r achos newydd yn dechrau ar 31 Gorffennaf 2023.
Giggs: 'Hyderus y bydd cyfiawnder'
Mewn datganiad, dywedodd Giggs ei fod "yn amlwg yn siomedig" y bydd yn wynebu achos arall.
"Mae fy mhle dieuog yn parhau mewn cysylltiad â phob cyhuddiad," dywedodd.
"Rwy'n hyderus y bydd cyfiawnder yn cael ei wneud yn y pen draw ac y bydd fy enw'n cael ei glirio o'r holl honiadau."
Fe wnaeth ddiolch i'w dîm cyfreithiol, ei deulu, ei gariad a'i ffrindiau am eu cefnogaeth.
"Rwy'n deall lefel y diddordeb a'r craffu sy'n ymwneud â'r achos hwn, ond hoffwn ofyn bod fy mhreifatrwydd i a fy nheulu yn cael ei barchu dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod."
Fe gamodd Mr Giggs i lawr o'i swydd fel rheolwr tîm Cymru ym mis Mehefin.