'Hen bryd' hyrwyddo pysgota 'gwych' Cymru i hybu cefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i hyrwyddo pysgota yng Nghymru, er mwyn cynyddu'r budd economaidd i gymunedau gwledig o dwristiaeth pysgota.
Dyna alwad Hywel Morgan, cyn-bencampwr Ewrop a'r byd ar daflu plu, sy'n dweud y gallai'r gwariant ar bysgota yng Nghymru gael ei ddyblu.
Yn ôl astudiaeth yn 2007 gan Asiantaeth yr Amgylchedd, mae economi Cymru yn elwa o tua £130m y flwyddyn o dwristiaeth sy'n gysylltiedig â physgota.
Mae ymchwil o 2018 gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod pysgota afon yng Nghymru yn cyfrannu £20m y flwyddyn at yr economi. Dyw hyn ddim yn cynnwys pysgota mewn llynnoedd, pysgodfeydd na'r môr.
Ond, mae Hywel Morgan yn dweud y gallai Cymru weld manteision llawer mwy pe bai mwy o bobl yn gwybod am ansawdd y pysgota yma.
Dywedodd Mr Morgan bod Cymru wedi "cadw cyfrinach, a chadw'r holl bysgod i ni'n hunain" ers blynyddoedd.
"Mae gennym ni sewin, eog, brithyllod brown a physgota penllwydion o'r radd flaenaf, ac mae gennym ni bysgota arfordirol bendigedig," ychwanegodd.
"Ry'n ni'n cynnal gŵyl y penllwydion yng ngogledd Cymru ar gyfer timau o bob rhan o Ewrop, ac maen nhw'n dweud mai Afon Dyfrdwy yw un o'r goreuon yn Ewrop ar gyfer penllwydion.
"Mae gennym ni ddyfroedd gwych yng Nghymru, ac mae'n hen bryd inni ddweud hyn wrth bawb. Gadewch i ni ddyblu'r £130m yna a'i roi yn economi wledig Cymru."
'Pysgota eisoes yn chwarae rôl bwysig'
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod digon o anturiaethau pysgota cynaliadwy ar gael ar afonydd, dŵr llonydd ac ar y môr, er bod rhai stociau pysgod dan bwysau.
Ychwanegodd Ben Wilson, Prif Ymgynghorydd Pysgodfeydd CNC bod pysgota "eisoes yn chwarae rôl bwysig sy'n cynnig buddion economaidd-gymdeithasol" mewn rhannau gwledig o Gymru.
"Mae pysgota ar afonydd Cymru yn unig yn ychwanegu tua £20m mewn nwyddau a gwasanaethau i'r economi bob blwyddyn ac yn cefnogi dros 700 o swyddi.
"Rydym eisoes yn denu pysgotwyr o Loegr ac Ewrop, ac mae lle i ni ddenu mwy.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r gymuned bysgota, gwella pysgodfeydd a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r gamp."
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae menter twristiaeth pysgota wedi'i sefydlu yng Nghymru. Cafodd gwefan Pysgota yng Nghymru, neu Fishing in Wales, ei lansio yn 2020.
Er bod y blynyddoedd cyntaf wedi digwydd yr un pryd â'r pandemig, dywedodd Ceri Thomas, y rheolwr marchnata, ei fod wedi llwyddo.
Mae'r wefan wedi derbyn 630,000 o ymweliadau ers mis Gorffennaf 2020, dywedodd.
Ychwanegodd hefyd bod 63% o'r rhai a ymatebodd i arolwg a gynhaliwyd ym mis Chwefror wedi dweud y byddan nhw'n debygol o gymryd gwyliau pysgota yng Nghymru yn 2022/23.
Dywedodd Mr Thomas: "Ry'n ni'n sicr yn gweld nifer cynyddol o ymholiadau gan bysgotwyr o'r tu allan i Gymru.
"Yn ddiweddar, fe ddenodd Llyn Brenig 132 o bysgotwyr ar gyfer cystadleuaeth bwysig ac mae llynnoedd brithyllod eraill fel Llyn Clywedog yn hynod boblogaidd gydag ymwelwyr.
"Mae pysgota môr yng Nghymru yn enfawr ac yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd sy'n ymweld, gyda pherchnogion cychod siarter yn dweud bod yr haf eleni wedi bod yn fendigedig.
"Dwi'n teimlo y gallwn farchnata Cymru fel cyrchfan pysgota premiwm yn llawer agosach at adref. Mae'r pysgota cystal ag y byddwch yn ei ganfod yn Ewrop neu yng ngwledydd ein cymdogion Celtaidd."
'Ddim yn hyrwyddo Cymru ddigon'
Yn ôl Marian Davies o Benrhyndeudraeth, sydd wedi cynrychioli tîm merched Cymru ers 1994, mae ansawdd y pysgota yng Nghymru lawn cystal ag unrhyw le arall y mae hi wedi cystadlu.
"Dwi wedi pysgota yn Iwerddon, Yr Alban a Lloegr ac mae Cymru yn cymharu'n dda iawn gyda'r gwledydd eraill," dywedodd.
"Mae'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru yr un mor dda â'r llynnoedd yn y tair gwlad arall. Ac mae rhai o'n llynnoedd ni lot gwell.
"Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n broblem bod ni ddim yn hysbysebu'n hunain gymaint ag y maen nhw'n gwneud mewn gwledydd eraill.
"'Dan ni ddim yn hyrwyddo pysgota yng Nghymru yn ddigonol - mae rhaid i ni ddangos yr hyn sydd gan Gymru i gynnig.
"Mae na lot fawr o bobl yn hoffi 'sgota, ac maen nhw'n gwario ac yn aros mewn gwestai, maen nhw'n gwario yn y siopau, caffis, tafarndai ac mae na lot fawr o arian yn gallu dod mewn."
Cyfle i ddenu mwy i bysgota
Y penwythnos hwn fe fydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal ar Ystâd y Faenol ger Bangor.
Fe fydd Ffair Gêm Cymru yn dathlu cefn gwlad a chwaraeon gwledig ac yn ôl Hywel Morgan mae'n gyfle i hyrwyddo pysgota yng Nghymru i gynulleidfa ehangach, ac o bosib, i ddechrau efelychu llwyddiant Iwerddon yn y maes.
"Dwi wedi bod yn mynd i sioeau ers tua 30 mlynedd ac yn y dyddiau cynnar Bwrdd Croeso Iwerddon oedd y stondin fawr ar bob sioe," dywedodd.
"Roedden nhw just yn gwthio a gwthio ansawdd pysgota yn Iwerddon. Ry'n ni'n trio dal lan gyda nhw.
"Mae Ffair Gêm Cymru yn gam ymlaen, ond mae'n rhaid i ni wneud llawer mwy. Mae'n hen bryd i Gymru ddechrau dangos i bobl pa mor dda yw ansawdd y pysgota yma ac wedyn mwynhau'r manteision a ddaw yn sgil hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2018