Bydd newidiadau i sector pysgota Cymru'n 'niweidiol'
- Cyhoeddwyd
Bydd newidiadau i sector pysgota masnachol Cymru - gwerth £23m - o dan gytundeb masnach yr UE yn "achosi dinistr", yn ôl pysgotwyr Cymreig.
Mae rheolau newydd fydd yn cymryd lle Polisi Cyffredin Pysgodfeydd Masnachol yr UE yn golygu y bydd 76 o longau yn cael parhau i bysgota o fewn chwe milltir i arfordiroedd Cymru tan 2026.
Yn ôl Undeb Pysgotwyr Cymru, gall olygu y bydd pysgotwyr lleol yn methu dal cymaint o bysgod ar adeg pan maen nhw'n ei chael hi'n anodd allforio'i nwyddau o ganlyniad i'r rheoliadau newydd.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod y cytundeb masnach yn adlewyrchu statws newydd y DU fel cenedl annibynnol arfordirol sy'n amddiffyn a chefnogi hawliau pysgotwyr ar draws y DU.
Ond dywedodd y pysgotwr Cymreig Barry Thomas, a bleidleisiodd dros Brexit, bod Boris Johnson wedi "methu" â chyrraedd cytundeb "ar y funud olaf" ar ôl addo i gadw llongau tramor y tu hwnt i derfyn 12 milltir i'r DU.
"Y terfyn chwech i 12 milltir yw ble rydyn ni'n bennaf yn pysgota," meddai Mr Thomas, sy'n pysgota ym Môr Hafren.
Dywedodd fod mathau o bysgod fel lleden a chath fôr wedi dod yn fwy prin ers iddo ddechrau pysgota 35 mlynedd yn ôl.
O'r 451 llong sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru, mae 92% yn gweithredu ar raddfa fach, ac yn cael eu diffinio fel llongau sy'n llai na 10m o hyd.
Maen nhw'n cystadlu gyda llongau Ffrengig a Belgaidd, sy'n 30m o hyd ac sy'n aros yn y môr am fisoedd.
"Mae fel gêm o rygbi, ac rydych chi'n un person yn chwarae tîm o bymtheg," meddai Mr Thomas.
"Faint o gyfle ydych chi'n mynd i gael i ennill?"
Dywedodd Undeb Pysgota Cymru wrth BBC Cymru ei fod yn ofni bydd nifer o'r 600 o bysgotwyr llawn amser yng Nghymru "ddim yn goroesi" gyda'r rheoliadau newydd.
Yn ôl llefarydd yr undeb, Kevin Denman, mae nifer o bysgotwyr yn ei chael hi'n anodd i gofrestru eu gweithrediadau yn y farchnad fel eu bod nhw'n gallu gwerthu i gwsmeriaid yn Ewrop.
Mae'r rhan fwyaf o gychod Cymreig yn arbenigo mewn pysgod cregyn, gyda 90% o'r pysgod yn cael eu hallforio i'r UE.
Dywedodd Mr Denman fod rheoliadau Brexit hefyd yn annog llongau o dramor i fynd â physgod sydd wedi'u dal mewn dyfroedd Cymru nôl i Ewrop yn lle porthladdoedd Cymreig fel Aberdaugleddau ac Abertawe.
Pryder am gyflenwadau pysgod
Ond y peth mae pysgotwyr Cymreig yn pryderu am fwyaf yw dyfodol cyflenwadau pysgod yn sgil y rheoliadau am drwyddedau newydd ar gyfer llongau tramor.
"Dilynodd [Llywodraeth y DU] ddull parthol fel bod unrhyw dreill-longau o'r UE sydd gyda hanes o bysgota unrhyw le yn y terfyn chwech i 12 milltir o arfordir Caint hyd at Sir Benfro yn cael mynediad i'r holl ardaloedd yna," meddai Mr Denman.
Pan oedd dyfroedd Cymru wedi'i rheoleiddio gan Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE dim ond 10 o dreill-longau Gwlad Belg a Ffrainc oedd yn pysgota'n aml o fewn y chwe milltir o arfordir Cymru.
Nawr mae 76 o longau Ffrengig a Belgaidd, llawer sydd â hanes o bysgota yn y Sianel, wedi cael eu hychwanegu i restr o longau sydd â hawl penodol i bysgota yn y parth o chwech i 12 milltir.
Mae pysgotwyr Cymreig yn ofni bydd nifer o'r llongau yma'n dechrau targedu ardaloedd ble mae lot o bysgod fel ger y Gwŷr a Dinbych-y-pysgod, ble mae nifer o fathau o bysgod yn y gwanwyn wrth iddyn nhw fudo i Fôr Hafren, yn ei gwneud yn haws i'w dal mewn niferoedd mawr.
"Roedden ni'n dal scrapiau'r pysgod a oedd yn dianc rhag y deg cwch yna," meddai Mr Denman.
"Gyda 76 o bosib yn pysgota yna bydd dim byd ar ôl yma a bydd yr holl borthladdoedd bach sy'n dibynnu ar gychod pysgota yn mynd allan o fusnes o bosib os caiff hyn ei ganiatáu i barhau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi bod yn rhybuddio am yr effeithiau dinistriol o gytundeb masnach "tenau" ar bysgotwyr Cymreig am bedair blynedd.
Ond cyhuddodd Mr Denman Llywodraeth Cymru o fethu â siarad dros bysgotwyr sydd wedi cael eu brifo gan y cytundeb masnach gyda'r UE.
"Rydw i'n credu yr oedd o fewn gallu Senedd Cymru i wrthod hyn ac rydyn ni eisiau gwybod pam nad yw hynny wedi digwydd a beth mae Cymru wedi cael yn lle.
"Rydyn ni wedi rhoi ein hadnoddau naturiol i ffwrdd, felly sut ydy pobl Cymru wedi elwa o hyn?"
Nid oedd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart ar gael i wneud sylw.
Dywedodd Llywodraeth y DU bydd y cytundeb yn sicrhau cynnydd o 15% mewn cwotâu pysgota yn y flwyddyn gyntaf cyn y trafodaethau blynyddol.
Dyw dosraniad y cwotâu newydd heb eu cytuno hyd yma, ond dengys astudiaeth o 2018 a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru byddai maint bach llynges Cymru yn ei gwneud yn fwy anodd i bysgotwyr Cymreig elwa o'r cynnydd mewn cwotâu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Bydd Cymru, fel gweddill y DU, yn elwa o'r mynediad heb dollau i farchnadoedd yr UE a buddsoddiad yn ein cymunedau pysgota, gan nad ydyn bellach wedi ein clymu at Bolisi Cyffredin Pysgotwyr yr UE."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020