Deiseb yn galw am adael i bobl deithio er mwyn pysgota

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Matthew Davies -Ffynhonnell y llun, Matthew Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Matthew Davies (chwith) fod pysgota yn gwneud lles i iechyd meddwl

Mae deiseb sy'n galw ar i bobl gael yr hawl i deithio er mwyn mynd i bysgota wedi casglu bron i 2,000 o enwau.

Ar hyn o bryd mae gan bysgotwyr hawl i ymarfer eu crefft yn Lloegr, cyn belled â'u bod yn pysgota ar ben eu hunain neu gydag aelodau o'u cartref ac yn aros yn lleol.

"Yn Lloegr, mae ganddo'ch hawl i fynd i bysgota - pam nid yng Nghymru," meddai Matthew Davies, wnaeth lunio'r ddeiseb.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y cyfyngiadau presennol mewn grym er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Mae'r ddeiseb yn galw am i Gymru ganiatáu pysgota fel yn Lloegr, cyn belled a bod pobl yn ufuddhau i'r canllawiau o gadw pellter cymdeithasol.

Yng Nghymru, mae'r canllawiau yn dweud tra nad yw campau fel marchogaeth a physgota wedi eu "gwahardd yn benodol" dylai pobl ddim gyrru er mwyn gwneud ymarfer corff.

Dywed y canllawiau nad yw cludo offer yn cael ei ystyried fel cyfiawnhad er mwyn gyrru.

"Felly yn ymarferol mai hynny'n golygu na allwn wneud y pethau hyn tra bod lefel 4 yn parhau," meddai'r canllawiau.

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod yna gynnydd o 16% wedi bod yn nifer y trwyddedau pysgota yn Hydref 2020 o'i gymharu â Hydref 2019.

Dywed Matthew Davies o Abertawe ei fod am weld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r un rheolau ag sydd yna yn Lloegr.

"Nid wyf yn cael teithio o fy nhŷ i fy nghwch ym mae Abertawe, sydd tua 3.1 milltir, er mwyn mynd i bysgota ar ben fy hunan ac yna dod yn ôl."

Ffynhonnell y llun, Matthew Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys, mab Matthew Davies, hefyd yn bysgotwr brwd

Dywedodd Mr Davies fod y sefyllfa yng Nghrymu yn "rhwystredig iawn".

"Dyw plant methu gwneud dim. Ond mae'r mwynhad o weld plentyn ar lan afon gyda'u tad, yn dal eu pysgodyn cyntaf... mae'n amhosib ail-greu'r foment. Mae'n anhygoel. "

Yng Nghymru mae'n rhaid i bobl aros yn eu cartrefi, ac ond gadael er mwyn "rhesymau angenrheidiol."

Fe ddylai ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y cartref, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bobl beidio ag ymgymryd â gweithgareddau sy'n golygu risg sylweddol, fel nofio neu fath arall o ymarfer yn y môr, llynnoedd neu afonydd.

Dywed Mr Davies, perchennog safle pysgota a gwersylla Black Mountian Fishery yn Garnant, Sir Gaerfyrddin, fod pysgota yn dda ar gyfer iechyd meddwl yn ogystal â'u hiechyd corfforol.

"Mae llawer o bobl yn defnyddio hyn er mwyn ymlacio. Dyw e' ddim yn unig am gadw'n heini, mae ef ar gyfer cyflwr iechyd meddwl."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "un o'r rhesymau am y cyfyngiadau yw lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, rydym hefyd yn gofyn i bobl beidio ymgymryd â gweithgareddau sy'n golygu risg sylweddol, fel nofio neu fath arall o ymarfer yn y môr, llynnoedd neu afonydd."

Pynciau cysylltiedig