Cynnal angladd y Frenhines Elizabeth II ar 19 Medi

  • Cyhoeddwyd
Abaty WestminsterFfynhonnell y llun, Victoria Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn Abaty Westminster y bydd angladd y Frenhines yn cael ei gynnal

Bydd angladd y Frenhines Elizabeth II yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster ar 19 Medi.

Fe fydd arch y Frenhines yn teithio o Balmoral i Gaeredin ddydd Llun, ac yna i Balas Buckingham ddydd Mawrth.

Fore Mercher, fe fydd yr arch yn cael ei gario i Balas Westminster, ble bydd yn aros nes yr angladd.

Cadarnhaodd Palas Buckingham y byddai cyfle i'r cyhoedd ymweld â'i harch am bedwar diwrnod cyn yr angladd.

Fe fydd yr angladd yn digwydd am 11:00 ar 19 Medi, fydd yn ŵyl y banc, ac yn ddiwedd ar y cyfnod o alaru cenedlaethol.

Daeth cadarnhad hefyd ddydd Sadwrn y byddai'r Brenin Charles III yn ymweld â Chymru ar 16 Medi.

Ynghyd â'r Frenhines Gydweddog, Camilla, fe fydd y Brenin yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers marwolaeth y Frenhines Elizabeth.

Tywysog 'wedi colli mam-gu'

Yn gynharach ddydd Sadwrn, fe wnaeth Tywysog Cymru ryddhau datganiad am y tro cyntaf ers marwolaeth y Frenhines.

Dywedodd y Tywysog William, a wnaeth etifeddu teitl Tywysog Cymru gan ei dad, bod y "byd wedi colli arweinydd arbennig", ond ei fod yntau "wedi colli mam-gu".

Ffynhonnell y llun, ANDREW COULDRIDGE
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tywysog a Thywysoges Cymru, a'r Tywysog Harry a Duges Sussex, ddarllen teyrngedau yn Windsor ddydd Sadwrn

"Er fy mod yn galaru ei cholled, rydw i hefyd yn teimlo'n ddiolchgar," meddai.

"Rydw i wedi elwa o ddoethineb a chefnogaeth y Frenhines i mewn i fy mhumed degawd."

Dywedodd bod y Frenhines wrth ei ochr "yn fy nghyfnodau hapusaf" a "diwrnodau tristaf fy mywyd", ac er ei fod yn "gwybod y byddai'r diwrnod yn dod, fe fydd yn beth amser nes bod realiti bywyd heb Mam-gu yn teimlo'n real".

Diolchodd am "y cyfeillgarwch y dangosodd i mi ac i fy nheulu", gan ddweud y byddai'n cofio amdani drwy gefnogi ei dad "ym mhob ffordd y gallaf".

Ymweliad Y Brenin

Bydd Charles III yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf fel Brenin ddydd Gwener, wrth iddo deithio i Gaerdydd gyda Camilla, Y Frenhines Gydweddog.

Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Llandaf, Caerdydd, cyn i'r cwpl deithio i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Yn dilyn hynny, fe fydd y Brenin yn teithio i Gastell Caerdydd ble fydd derbyniad preifat iddo gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford, a'r Llywydd Elin Jones.

Mae disgwyl i'r cwpl wedyn gwrdd ag aelodau'r cyhoedd y tu allan i'r castell.

Pynciau cysylltiedig