Brenin Charles: Cadarnhau William yn Dywysog Cymru

  • Cyhoeddwyd
King CharlesFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Brenin Charles III yn ystod ei anerchiad cyntaf i'r wlad

Mae'r Brenin Charles III wedi annerch y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf fel brenin yn dilyn marwolaeth ei fam, y Frenhines Elizabeth II.

Yn ystod ei araith fe ddiolchodd i'w fam am ei "chariad, ei hoffter, ei harweiniad", ac fe gadarnhaodd bod ei fab, William, yn ei olynu fel Tywysog Cymru.

Dywedodd: "Gyda Catherine wrth ei ochr, bydd ein Tywysog a Thywysoges Cymru newydd, rwy'n gwybod, yn parhau i ysbrydoli ac arwain ein sgyrsiau cenedlaethol, gan helpu i ddod â'r ymylol i'r tir canol lle gellir darparu cymorth hanfodol."

Fe wnaeth y Brenin Charles a'i wraig, Camilla y Frenhines Gydweddog, gyrraedd Llundain brynhawn Gwener ar ôl teithio o Balmoral, gyda thorfeydd ger Palas Buckingham yno i'w cymeradwyo.

Gwnaeth y Brenin ei anerchiad ar y teledu ar ôl cwrdd â'r Prif Weinidog, Liz Truss.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd yno i groesawu a chymeradwyo pan gyrhaeddodd y Brenin Charles a'i wraig Balas Buckingham brynhawn Gwener

Dywedodd bod y Frenhines wedi bod yn "ysbrydoliaeth ac yn esiampl i mi ac i'm teulu i gyd, ac mae arnom ni'r ddyled fwyaf twymgalon sydd gan unrhyw deulu i'w mam; am ei chariad, ei hoffter, ei harweiniad, dealltwriaeth ac esiampl".

"Roedd bywyd y Frenhines Elizabeth yn fywyd wedi ei fyw'n dda. Rwy'n adnewyddu'r addewid hwnnw o wasanaeth gydol oes i chi i gyd heddiw.

"Ar ran fy nheulu i gyd, ni allaf ond cynnig y diolch mwyaf diffuant am eich cydymdeimlad a'ch cefnogaeth. Maent yn golygu mwy i mi nag y gallaf byth ei fynegi."

'Teyrngarwch, parch a chariad'

Cadarnhaodd bod ei fab, William a'i wraig yntau, Catherine, yn ei olynu fel Tywysog a Thywysoges Cymru, ac fe fynegodd ei "gariad i'r Tywysog Harry a Meghan wrth iddynt barhau i adeiladu eu bywydau dramor".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Tywysog a Thywysoges newydd Cymru, William a Catherine

Nid oedd dod yn Dywysog Cymru yn hawl awtomatig i William, ond yn draddodiadol mae'r teitl wedi ei roi i'r etifedd gan y brenin neu'r frenhines.

Y Brenin Charles oedd y Tywysog Cymru hiraf ei wasanaeth mewn hanes.

Bu i William dreulio cyfnod yn byw ar Ynys Môn pan yn gwasanaethu gyda'r Awyrlu, ac mae hefyd yn brif noddwr Undeb Rygbi Cymru.

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn "edrych ymlaen at ddyfnhau ein perthynas â'r Tywysog a'r Dywysoges newydd".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Dywedodd y Brenin fod y teitl o Dywysog Cymru yn un yr oedd "wedi bod yn gymaint o fraint i'w ddwyn yn ystod cymaint o fy mywyd a dyletswyddau".

Cafodd ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon yn 1969 pan roedd ond y 20 oed.

'Gwasanaethu mor ddiwyd'

Yn ystod ei anerchiad bu i'r Brenin dalu teyrnged arbennig i'w fam, y Frenhines, am ei 70 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus yn ogystal â'i rôl fel mam.

"Fel y gwnaeth y Frenhines ei hun gyda'r fath ddefosiwn diwyro, rydw i nawr hefyd yn addo fy hun drwy gydol yr amser sy'n weddill y mae Duw yn ei ganiatáu i mi, i gynnal yr egwyddorion cyfansoddiadol sydd wrth galon ein cenedl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Ble bynnag y byddwch yn byw yn y Deyrnas Unedig, neu yn y byd a thiriogaethau ar draws y byd, a beth bynnag fo'ch cefndir a'ch credoau, byddaf yn ymdrechu i'ch gwasanaethu â theyrngarwch, parch a chariad, fel rwyf wedi gwneud gydol fy mywyd.

"I fy mam annwyl, wrth i chi gychwyn ar eich taith olaf i ymuno â'm diweddar nhad, rwyf am ddweud hyn yn syml: diolch.

"Diolch am eich cariad a'ch ymroddiad i'n teulu ac i'r teulu o genhedloedd yr ydych wedi eu gwasanaethu mor ddiwyd dros yr holl flynyddoedd hyn."

Pynciau cysylltiedig