Balchder ymhlith 'cymdogion' y Brenin Charles ym Myddfai

  • Cyhoeddwyd
Charles a Camilla ar garreg drws Llwynywermod yn 2009Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog Charles a Duges Cernyw - eu teitlau ar y pryd - ar garreg drws Llwynywermod yn 2009

Mae 'na gyffro ymhlith trigolion pentref yn Sir Gâr, sy'n gallu hawlio bod eu cymydog bellach yn Frenin.

Pymtheg mlynedd yn ôl, prynodd Tywysog Cymru, fel oedd ei deitl ar y pryd, stad wyliau Llwynywermod ym mhentref Myddfai ger Llanymddyfri.

Er gwaethaf eu balchder ynghylch y cysylltiad, dydy pobl leol ddim yn credu y gwelwn nhw'r brenin newydd mor aml yn y dyfodol, wrth iddo ymgymryd â'i ddyletswyddau newydd.

"Chi'n gweld y twmpyn coed 'na lan ar y bryn... ma'r llwybr yn mynd lan ochr draw hwnna, lan i'r mynydd," meddai Emlyn Morgan, ffermwr lleol, wrth ddangos lle roedd y tywysog yn hoffi mynd i gerdded pan fyddai'n ymweld â'r ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Emlyn Morgan ei fod yn 'meddwl o byd' o'r Brenin Charles ar ôl dod i'w nabod

Mae'n cyfri'r brenin newydd fel tipyn o ffrind.

"Fi'n meddwl y byd o fe, chi 'mod. Mae e wedi mwynhau dod yma," meddai.

"O'dd neb yn gwneud ffỳs ohono fe. O'dd e'n wastad yn dod i'r Eglwys ar ddydd Sul, byddai un dyn bach [swyddog diogelwch] gyda fe.

"A bydde fe'n dod mewn i'r caffi wedyn ar ôl y cwrdd i gael cwpaned bach o de ac ysgwyd llaw â phawb."

Roedd y tywysog yn rhan o'r ymgyrch i sicrhau neuadd gymunedol newydd sbon i'r pentref ac fe agorodd yr adeilad yn 2011.

Mae'n debyg ei fod wedi rhoi ei farn yn glir ar siâp yr adeilad newydd, gan fynnu ei fod yn cadw natur yr adeiladau eraill yn y pentref.

"Welodd e'r cynllun cyntaf a do'dd e ddim yn lico hwnnw o gwbl, o'dd [y cynllun] fel rugby ball a wedodd e wrthon ni, 'I won't put my weight behind that at all'," eglura Emlyn Morgan.

"So gorff'on ni newid yr architect wedyn.... a chael hi [y neuadd] fel mae hi heddi', ac mae wedi bod yn llwyddiannus dros ben."

Disgrifiad o’r llun,

Y plac sy'n nodi manylion agoriad swyddogol neuadd gymunedol y pentref

Mae Carol Dyer yn gadeirydd ar Gyngor Cymuned Myddfai ac wedi cwrdd â'r Brenin, neu'r tywysog fel oedd e ar y pryd, droeon.

Er bod yna le i drafod strwythur y frenhiniaeth mewn oes newydd, meddai, mae o'r farn bod Myddfai wedi elwa o'r cysylltiad.

"Fe 'nath brynu'r defibrillator i'r pentref, gafodd hwnna ei osod ar wal y neuadd. Felly mae ei haelioni e wedi bod yn dawel ond mae 'na bethau wedi cael eu rhoi," meddai.

Disgrifiad,

Brenin o gymydog sydd a rhywbeth i ddweud wrth bawb

"Ar y dechrau pan ddaeth e yma, un o'r pethau wnaeth e oedd cael noswaith gymdeithasol i gwrdd â phobl leol. Oedd un ohonom ni yn tywys y tywysog o gwmpas i gyfarfod â'r bobl a'r llall yn tywys Camilla.

"Chi'n mynd â nhw i'r grŵp a dim ond un cyflwyniad bach sydd isie a wedyn oedd ei sgwrs e yn rhedeg mor rhwydd a rhywbeth i ddweud wrth bawb."

Ond dydy hi ddim yn meddwl y bydd y brenin newydd yn ymweld â'r pentref eto am gyfnod.

"Fi'n credu falle bod pethau wedi newid, ni wedi gweld ers iddo golli ei fam, dyw e ddim wir wedi cael amser i alaru, mae e'n gorfod ymwneud â dyletswyddau Brenin yn barod," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai 'na groeso ym Myddfai i'r Tywysog William a'i wraig petaen nhw'n penderfynu defnyddio Llwynywermod yn y dyfodol, medd Emlyn Morgan

Mae Emlyn Morgan o'r un farn.

"Bydd e ddim yn dod mor aml, ry'n ni'n gallu gweld hynny, ond gobeithio bydd y mab, William a Kate, yn dod - bydd 'na groeso mawr i nhw," meddai.

"Ond ni'n ymfalchïo yn arbennig bod e wedi dod yn frenin."

Efallai bod Myddfai yn teimlo'n bell o rwysg a rhodres Llundain, ond mae pobl y pentref hefyd yn dathlu eu cysylltiad brenhinol.

Pynciau cysylltiedig