Cymry'r Gymanwlad yn ymateb i farwolaeth y Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cymry tramor yn rhoi blas o'r ymateb i farwolaeth y Frenhines mewn gwahanol rannau o'r Gymanwlad

Wedi cyfres o ddigwyddiadau cofio ym Mhrydain, mae gwledydd ar draws y byd hefyd wedi dangos eu gwerthfawrogiad i'r Frenhines drwy oleuo adeiladau eiconig, chwifio baneri a chanu ffanfferau.

Yn bennaeth hir sefydlog ar y Gymanwlad, mae'r gwledydd hynny hefyd wedi bod yn cydymdeimlo ac yn cofio Elizabeth II.

Yn ôl Michelle Williams sy'n byw yng Nghanada, mae 'na barch at y Frenhines yn y wlad.

"Mae hi wedi bod yn constant" meddai.

"Mae hi wedi bod yn loyal i'r wlad. Mae hi wedi bod yn fam, yn fam-gu, yn chwaer, ac mae'n berson jyst fel ni. Mae hi wedi rhoi ei bywyd i'r wlad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Teyrnged Tŷ Opera Sydney i'r Frenhines Elizabeth II

Yn wreiddiol o Lanon yng Ngheredigion, mae'n dweud bod yr ymateb yng Nghanada wedi bod yn debyg i'r Deyrnas Unedig.

"Aethon ni ar y weekend lan i Ottawa ac roedd blodau wedi cael eu gosod tu fas yr Head of State a'r House of Parliament."

'Ochr arall y byd'

Yn ôl Sioned Carran, athrawes yn Seland Newydd, tawel mae'r ymateb wedi bod yn ei milltir sgwâr hi.

"Dwi'n byw reit yng ngwaelod Seland Newydd a dw'i heb weld dim byd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sioned Curran fod yr ymateb wedi bod yn dawel lle mae hi'n byw yn Seland Newydd

"Mae pobl 'di bod yn rhannu pethau ar Facebook a rhannu eu cydymdeimladau a ballu ond 'dan ni ddim 'di gweld blodau na dim byd felly."

"O'r bobl dw'i 'di siarad â nhw, dwi'n meddwl bod nhw'n teimlo'n reit detached o'r Royal Family achos ry'n ni ochr arall y byd, felly dy'n nhw ddim yn dallt y rheolau i gyd gyda'r angladd a pam mae o'n cymryd mor hir a ballu."

Er i'r Frenhines ymweld yn gyson â gwledydd y Gymanwlad ar hyd ei hoes, mae nifer yn y gwledydd hynny yn galw am edrych eto ar y berthynas â'r goron Brydeinig.

Yn ôl Emma Durotyoe o Nigeria, mae teimlad bod marwolaethau mawrion eu gwledydd nhw eu hunain yn ennyn fwy o ymateb yn lleol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1983, fe wnaeth y Frenhines ail ymweld â gwesty'r Treetops yn Kenya - un o wledydd y Gymanwlad - lle clywodd am farwolaeth ei thad George VI

"Mae gan Nigeria system monarchy eu hun gyda Oba mewn gwahanol ardaloedd a phan mae'r Oba yn marw mae ganddyn nhw draddodiadau sy'n cael eu dilyn," meddai.

"Lle roedden ni'n byw'r flwyddyn ddiwethaf, nath un o'r Oba's farw ac mi wnaethon nhw ddilyn taith drwy'r lle yr oedd e'n gyfrifol.

"Mae e'n big celebration…lot o ddawnsio, lot o grio yn uchel."

Wrth ddisgrifio'r ymateb i farwolaeth y Frenhines yn y wlad, dywedodd nad oedd pobl ei hoed hi wedi ymateb yn yr un modd â phobl hŷn y wlad.

"Efo pobl hynach, roedden nhw'n gweld hi mor professional... mi roedd 'na barch tuag at Queen Elizabeth II ac mae'r drafodaeth rŵan, a fydd yr un peth yn parhau, ond do'n ni'm yn teimlo bod yr un lefel o dristwch yma ac oedd 'na yn y Deyrnas Unedig. "

Er bod nifer o wledydd wedi dangos eu cydymdeimlad mewn amryw o ffyrdd gwahanol, mae rhai'n honni bod cwestiynau'n cael eu codi ynghylch bod yn rhan o'r Gymanwlad.

Amrywiaeth barn

Dywedodd Sioned Carran, sydd wedi byw yn Seland Newydd am chwe blynedd: "O be dwi'n gwybod amdan barn pobl yn Seland Newydd, bysan nhw'n hoffi bod yn republic.

"Ond wedyn ar y llaw arall efo'r ffordd mae'r byd yn mynd efo rhyfeloedd ag ati, maen nhw'n credu base'n well i Seland Newydd aros yn y Commonwealth er mwyn protection."

Yng Nghanada, fodd bynnag, mae Michelle Williams yn fwy pendant bod gwerth i'r Gymanwlad a bod dyfodol, yn sicr, i'r Frenhiniaeth.

"Dyw jyst cael gwared ar y monarch ddim yn meddwl bod pethau yn mynd i wella.

"Mae e'n mynd lot fwy dwfn 'na hynna. Dyw cael gwared arno ddim mynd i helpu pawb a chael gwared ar broblemau'r wlad."