Ymchwilio i farwolaeth gweithiwr mewn ffatri ddur

  • Cyhoeddwyd
Tata Llan-wernFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i "argyfwng meddygol" ar safle Tata Steel yn Llan-wern yn yr oriau mân fore Mercher

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi i ddyn farw tra'n gweithio mewn ffatri ddur yng Nghasnewydd.

Cafodd y llu eu galw i "argyfwng meddygol" ar safle Tata Steel yn Llan-wern am 03:50 fore Mercher.

Fe gafodd dyn 50 oed o Gwmbrân ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Tata Steel fod marwolaeth un o'i weithwyr yn "drist dros ben".

"Iechyd a diogelwch ein gweithwyr, contractwyr ac ymwelwyr sydd wastad wedi bod, ac sy'n parhau, y flaenoriaeth bwysicaf," meddai llefarydd.

"Rydym yn meddwl am deulu, ffrindiau a chydweithwyr yr aelod o staff ar yr amser gofidus yma.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Pynciau cysylltiedig